Mi wnaeth rheolwr TG o Wlad Pwyl, a aeth ati i ddysgu Cymraeg ar ôl clywed yr iaith mewn cynhadledd ryngwladol, deithio dros fil o filltiroedd i sefyll arholiad Dysgu Cymraeg.
Mae Boleslaw Czyszak yn dysgu Cymraeg ar lefel Sylfaen gyda Dysgu Cymraeg Gwent, sy’n cael ei drefnu gan Goleg Gwent ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ar ôl clywed y Gymraeg am y tro cyntaf yn 2025, cafodd ei ddenu at yr iaith, ac mae eisoes wedi ymweld â Chymru bum gwaith eleni.
Ar ôl mynychu Cynhadledd Amlieithog yn Brno, y Weriniaeth Tsiec, cofrestrodd Boleslaw ar ddosbarth Dysgu Cymraeg rhithiol, yn ogystal â mynychu sesiynau Sadwrn Siarad rhithiol, grwpiau darllen, a sesiynau paratoi ar gyfer yr arholiad.
Meddai Boleslaw:
Ar ôl clywed y Gymraeg yn y gynhadledd, ro’n i wedi gwirioni â’r iaith. Mi wnes i gofrestru ar gwrs oedd yn siwtio fy amserlen waith, ac mae Dysgu Cymraeg Gwent wedi bod yn ddewis gwych. Mae’r tiwtoriaid yn arbennig, yr awyrgylch yn groesawgar, a’r dysgwyr eraill mor gefnogol.
Penderfynodd Boleslaw deithio i Gymru er mwyn sefyll ei arholiad Dysgu Cymraeg lefel Mynediad, fel yr eglura:
Roedd sefyll yr arholiad yng Nghymru yn brofiad gwefreiddiol—dw i wedi syrthio mewn cariad â Chymru! Pan ro’n i yng Nghymru, mi wnes i deithio ar drên Calon Cymru, mynd i Flaenafon, y Mwmbwls, Gŵyl Newydd yng Nghasnewydd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Dw i’n dod nôl eto cyn y Nadolig, er mwyn mynd i barti Nadolig Dysgu Cymraeg Gwent yn Llanhiledd.
Er mwyn ymarfer ei Gymraeg, mae Boleslaw yn gwylio S4C, yn gwrando ar bodlediadau, ac yn darllen y Mabinogi. Mae’n awyddus i annog dysgwyr ar hyd a lled y byd i roi cynnig ar ddysgu Cymraeg:
Os dych chi’n ystyried dysgu Cymraeg, ewch ati i gofrestru ar gwrs. Mi gewch chi groeso cynnes, a bydd yn brofiad gwerth chweil.