Mae dysgwr, oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1977, wedi dychwelyd yno eleni i ddilyn gradd yn y Gymraeg, ar ôl dysgu Cymraeg ar gyrsiau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Bydd Mike Davies, sy’n dod o Gaerloyw yn wreiddiol, ond sy’n byw yn Abergwaun, yn symud i Aberystwyth yn y flwyddyn newydd, er mwyn defnyddio ei Gymraeg bob dydd, wrth astudio’n rhan amser am gyfnod o chwe blynedd.
Roedd hen dad-cu Mike, Abel Christmas Davies, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn nyddiau cynnar y Brifysgol, a chafodd Abel ei ddewis i chwarae rygbi dros Gymru yn 1889. Er mai yn Swydd Gaerloyw y magwyd Mike, roedd yn ymwybodol o’r Gymraeg a’r cysylltiad teuluol â Chymru o’r cychwyn cyntaf.
Wyth mlynedd yn ôl symudodd Mike i Sir Benfro a phenderfynu ymroi i feistroli’r Gymraeg. Yn fwy diweddar mae e wedi mynychu’r cwrs haf dwys gyda Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Aberystwyth ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Yn ychwanegol, mae wedi derbyn Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Meddai Mike:
Pan oeddwn yn blentyn, ambell waith byddwn yn clywed y Gymraeg ar y radio a dw i’n cofio fy nhad yn dweud ei bod yn rhan o fy etifeddiaeth,’’ meddai Mike. ‘‘Felly pan wnes i ddewis astudio Cemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1977, dechreuais ddysgu’r iaith mewn dosbarthiadau nos. Ar ôl symud i Abergwaun, ro’n i’n gwybod bod angen i fi fynd ati o ddifri i ddysgu Cymraeg.
Heddiw, mae’r iaith yn rhan annatod o fywyd Mike. Mae e’n dweud ei fod e wedi cael y fraint a’r pleser o ddarllen rhai o nofelau amlycaf y Gymraeg, ac mae e’n mwynhau gwrando’n ddyddiol ar Radio Cymru; mae rhaglenni Aled Hughes, Llwyfan a Galwad Cynnar ymhlith ei ffefrynnau. Mae e hefyd yn ysgrifennu yn rheolaidd a newydd gwblhau erthygl i gylchgrawn Natur Cymru, gan ei fod yn hoff o fyd natur. Yn ei amser sbâr mae e’n ymddiriedolwr i Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ac yn gwirfoddoli yn rheolaidd ar Ynys Sgomer.
Ychwanegodd Mike:
Mae dychwelyd i Aberystwyth hanner canrif yn ddiweddarach a dilyn gradd yn y Gymraeg yn deimlad arbennig iawn. Mae’r cyrsiau Dysgu Cymraeg wedi rhoi hyder i mi ddefnyddio’r iaith bob dydd - mae hyn yn profi nad yw hi byth yn rhy hwyr i fentro. Hoffwn ddiolch o galon i’r tiwtoriaid campus a’r cyfeillion sydd wedi cefnogi fy nhaith at yr iaith.