Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Academydd o Golombia yn cofleidio’r Gymraeg yng Nghaerdydd

Academydd o Golombia yn cofleidio’r Gymraeg yng Nghaerdydd

Mae academydd o Golombia yn dysgu Cymraeg gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac yn defnyddio’i sgiliau yn y gwaith ac yn y cartref gyda’i ferch 18 mis oed.

Mae Dr Enrique Uribe-Jongbloed, sy’n dod o Bogotá, yn dysgu ar lefel Uwch gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Caerdydd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Tiwtor Enrique yw Sandra de Pol o Batagonia, ac mae’r ddau’n mwynhau trafod y tebygrwydd rhwng gramadeg y Gymraeg a’r Sbaeneg.

Meddai Enrique:

Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn brofiad gwerth chweil. Mae Sandra a finnau’n rhannu’r un cefndir diwylliannol, felly ro’n i’n teimlo’n gartrefol iawn yn y dosbarth o’r cychwyn cyntaf.

Daeth Enrique i Gymru yn 2008 er mwyn cwblhau PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ymchwilio i gyfryngau ieithoedd lleiafrifol yng Nghymru a Cholombia. Ar ôl gweithio fel darlithydd yng Ngholombia a gwneud ymchwil yn yr Almaen a’r Alban, daeth yn ôl i Gymru yn 2022.

Mae bellach yn Gymrawd Ymchwil ar brosiect Media Cymru yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, ac mae’n benderfynol o ddatblygu a defnyddio ei Gymraeg.

Mae Enrique yn mynychu dosbarth Dysgu Cymraeg wythnosol, ac yn aelod o gynllun Siarad y Ganolfan Dysgu Cymraeg, sy’n paru dysgwyr â siaradwyr Cymraeg.

Yn y cartref, mae Enrique a’i wraig Marian yn siarad Sbaeneg, ond mae Enrique yn siarad Cymraeg gyda’u merch, Annalena, fel yr eglura:

Dw i’n siarad Cymraeg gydag Annalena bob dydd. Mae’n hyfryd gallu rhannu’r Gymraeg gyda hi fel un o’i hieithoedd cyntaf - gobeithio y bydd hi’n mwynhau ieithoedd wrth iddi dyfu.

Yn ychwanegol, mae Enrique yn defnyddio’r Gymraeg mewn sesiynau gemau bwrdd gyda ffrindiau ac yn mynychu digwyddiadau cymunedol yng Nghaerdydd.

Meddai Enrique:

Mae dysgu Cymraeg wedi agor y drws i gymuned gynnes, groesawgar, ac wedi fy helpu i ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae’r iaith bellach yn rhan o’n dyfodol ni, a dw i’n edrych ymlaen at barhau i ddysgu a rhannu’r daith gyda fy merch.