Canllaw Hawlfraint
Canllaw ar gyfer gwneud cais am drwydded i ddefnyddio deunydd sydd o dan hawlfraint y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Diben
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ("y Ganolfan") yn berchen ar hawlfraint amrywiaeth o adnoddau dysgu a deunyddiau cysylltiedig. Os hoffech ddefnyddio unrhyw ddeunydd sy'n eiddo i'r Ganolfan, mae angen i chi gael caniatâd ysgrifenedig neu gytundeb trwyddedu cyn gwneud hynny.
Mae'r canllaw hwn yn egluro'r broses ar gyfer gwneud cais.
Pryd mae angen gwneud cais?
Dylech wneud cais os dych chi’n dymuno:
Copïo neu atgynhyrchu testun, delweddau neu graffeg;
Defnyddio neu addasu adnoddau dysgu;
Cyfieithu deunyddiau;
Cynnwys deunydd y Ganolfan mewn cwrs, gwefan, cyhoeddiad neu adnodd arall;
Dosbarthu neu gyhoeddi deunydd mewn unrhyw fformat;
Defnyddio cynnwys at ddibenion masnachol neu hyrwyddo.
Gall rhai defnyddiau cyfyngedig gael eu caniatáu o dan y gyfraith heb drwydded, ond os oes unrhyw amheuaeth, dylid cysylltu â'r Ganolfan cyn defnyddio'r deunydd.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich cais yn ysgrifenedig gan gynnwys y wybodaeth ganlynol:
1. Manylion yr ymgeisydd
Enw'r unigolyn neu'r sefydliad
Enw'r person cyswllt
Cyfeiriad e-bost
Rhif ffôn
2. Y deunydd dych chi’n dymuno ei ddefnyddio
Disgrifiwch y deunydd mor fanwl â phosibl, er enghraifft:
Teitl yr adnodd;
Rhif ISBN (os oes un);
Tudalennau neu adrannau penodol;
Delweddau, diagramau neu elfennau unigol;
Dolen i'r adnodd (os yw ar-lein).
3. Sut y defnyddir y deunydd
Nodwch:
Diben y defnydd;
Pwy fydd yn defnyddio'r deunydd;
A fydd y deunydd yn cael ei addasu;
A fydd yn cael ei gyfieithu;
Ym mha gyfrwng y caiff ei ddefnyddio (print, gwefan, dysgu ar-lein, fideo ac ati);
Faint o gopïau neu ddefnyddwyr a ragwelir.
4. Cyfnod y defnydd
Nodwch:
Dyddiad dechrau'r defnydd;
Hyd y drwydded sydd ei angen (os yw'n hysbys).
Sut y bydd y Ganolfan yn ystyried eich cais
Bydd pob cais yn cael ei asesu yn unigol. Wrth wneud penderfyniad, gall y Ganolfan ystyried:
Natur y deunydd;
Diben y defnydd;
A yw'r defnydd yn cefnogi amcanion y Ganolfan;
Effaith y defnydd ar weithgareddau'r Ganolfan;
Unrhyw oblygiadau masnachol;
Hawliau trydydd partïon sydd efallai'n berthnasol.
Nid yw cyflwyno cais yn gwarantu y rhoddir trwydded.
Cytundeb Trwyddedu
Os caiff eich cais ei gymeradwyo, efallai y gofynnir i chi lofnodi Cytundeb Trwyddedu cyn defnyddio'r deunydd.
Gall y cytundeb gynnwys amodau ynghylch:
Cwmpas y defnydd;
Hyd y drwydded;
Cyfyngiadau ar gopïo neu addasu;
Cydnabyddiaeth briodol o hawlfraint;
Unrhyw ffi drwyddedu (lle bo'n berthnasol);
Terfynu'r drwydded os torrir yr amodau.
Hawlfraint
Oni nodir yn wahanol yn y Cytundeb Trwyddedu, bydd pob hawlfraint a hawliau eiddo deallusol yn parhau'n eiddo i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Ni cheir trosglwyddo perchnogaeth yr hawlfraint drwy roi caniatâd i ddefnyddio'r deunydd.
Cysylltu
Dylid anfon pob cais at:
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ
0300323 4324