Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gwahodd tiwtoriaid i weithdy sy'n rhoi trosolwg o gwrs ac adnoddau newydd sy'n cyflwyno Cymru a'r Gymraeg i bobl nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt neu nad ydynt yn siarad llawer o Saesneg.
Dyddiad: Dydd Gwener, 29 Ionawr 2027
Amser: 10.30am - 2.30pm
Lleoliad: Undeb Myfyrwyr Caerdydd, Plas y Parc, Caerdydd, CF10 3QN
Mae'r gweithdy yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim, a darperir lluniaeth.
Bydd y gweithdy yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.
Llenwch y ffurflen isod i gofrestru. Y dyddiad cau ydy 18 Ionawr.