Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gwahodd gohebwyr chwaraeon i weithdy arbennig ar sut i gefnogi dysgwyr a siaradwyr Cymraeg dihyder ar y cyfryngau.
Cynhelir y gweithdai dan ofal Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu'r Ganolfan, a'r cyn athro a darlledwr, Ion Thomas. Bydd Comisiynwyr Chwaraeon S4C hefyd yn mynychu'r gweithdai.
Mae dewis o ddau weithdy ar gael:
Dyddiad: 26 Ionawr 2027
Amser: 10.30am - 3.00pm
Lleoliad: Llety Arall, Caernarfon
Dyddiad: 27 Ionawr 2027
Amser: 10.30am - 3.00pm
Lleoliad: Canolfan Genedlaethol, Gerddi Sophia, Caerdydd
Mae'r gweithdy yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim, a darperir lluniaeth.
Bydd y gweithdy yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.
Llenwch y ffurflen isod i gofrestru. Y dyddiad cau ydy 18 Ionawr.