Datblygwch eich Cymraeg ar eich cyflymder eich hun gyda chyrsiau hunanastudio sydd wedi’u creu’n arbennig ar gyfer staff sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Dewiswch y lefel sy’n addas i’ch Cymraeg:
Mynediad: Dysgwch eiriau defnyddiol ac ymadroddion syml i gyflwyno’ch hun, gofyn cwestiynau sylfaenol a siarad am arferion bob dydd.
Sylfaen: Adeiladwch ar eich Cymraeg i gynnal sgyrsiau byr, siarad am anghenion pobl a thrafod sefyllfaoedd bob dydd yn y gwaith.
Canolradd: Datblygwch eich sgiliau a’ch hyder i siarad Cymraeg yn fwy annibynnol mewn sgyrsiau a sefyllfaoedd bob dydd yn y gwaith.
Mae pob lefel yn cynnwys tri modiwl 20 awr, gan roi cyfanswm o 60 awr o ddysgu annibynnol i chi. Mae cymorth tiwtor ar gael i ateb cwestiynau, eich helpu i wneud cynnydd a’ch annog i ddal ati.