Holi Marie-Pascale
Yn ddiweddar, mae gweithwyr Iechyd a Gofal wedi dilyn cwrs arbennig yn Nant Gwrtheyrn wedi'i ddatblygu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn cefnogi 'Mwy na Geiriau', strategaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau Iechyd a Gofal trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyma Marie-Pascale, sy'n gweithio yn Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan, gogledd Cymru.
Dwed ychydig amdanat ti...
Marie-Pascale dw i. Dw i'n dod o Nigeria. Dw i'n byw ym Mangor. Dw i'n gweithio yn Ysbyty Bryn y Neuadd fel cymhorthydd i bobl ag anghenion iechyd meddwl.
Pam dysgu Cymraeg?
Dw i'n siarad tipyn bach o Gymraeg. Mae'r rhan fwyaf o'r cleifion yn yr ysbyty yn siarad Cymraeg, a dw i eisiau dysgu'r iaith er mwyn gallu cyfathrebu â nhw yn eu hiaith. Mae'n creu cysylltiad arbennig rhyngddoch chi a'r claf. Dw i'n dwlu ar ddiwylliant, mae'n bwysig iawn i fi, ac mae iaith yn rhan annatod a phwysig ohono. Mae diwylliant heb iaith yn ddiwylliant heb galon.
Sut brofiad oedd dilyn y cwrs yn Nant Gwrtheyrn?
Roedd yr awyrgylch yn hyfryd. Roedd pawb mor gefnogol ac yn fy annog i siarad Cymraeg. Mae'n lle hardd, tawel a hamddenol i ddysgu. Dw i isio dod yma eto.
Sut byddi di'n defnyddio dy sgiliau Cymraeg yn y gwaith?
Dw i bob amser wedi bod yn angerddol am siarad Cymraeg â chleifion. Dw i eisoes yn defnyddio cyfarchion yn y gwaith, ond rŵan, dw i isio dysgu'r iaith yn well er mwyn gallu cyfathrebu'n rhugl a'u cefnogi â'u hanghenion yn y Gymraeg. Mae cleifion bob amser yn hoffi pan dach chi'n siarad â nhw yn eu hiaith gyntaf.