Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Joe 

Holi Joe 

Mae Joe Wright yn dod o Aberdeen, ond erbyn hyn mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig, Elen, a’u merched, Lleucu a Ffion. 

Yma, mae Joe yn sôn am ddysgu Cymraeg a sut mae’r iaith yn rhan o fywyd y teulu… 

Beth yw eich cefndir?

Dw i’n dysgu technoleg cerddoriaeth ym Mhrifysgol Dinas Birmingham ac yn chwarae’r sacsoffon. Mi wnes i gwrdd ag Elen, fy ngwraig, pan yn astudio cerddoriaeth yn Llundain. Pan wnaethon ni ddechrau teulu, symudon ni i Gaerdydd, ble ’dyn ni’n byw gyda’n merched sy’n dair a chwech oed. 

Pam wnaethoch chi benderfynu dysgu Cymraeg?

Mae Elen yn dod o Borthmadog ac yn siarad Cymraeg, a ro’n i eisiau i’r plant fynd i ysgol Gymraeg. Mi wnaeth fy mam, sy’n Almaenes, siarad Almaeneg gyda fi pan o’n i’n blentyn. Felly ro’n i’n deall pa mor bwysig yw dysgu ail iaith gartref. 

Sut wnaethoch chi ddechrau dysgu?

Mi wnes i ddefnyddio’r ap SaySomethinginWelsh, ar ôl oriau gwaith a rhwng gigs. Dw i’n ymarfer siarad gyda’r teulu adref, ac yn bwriadu ymuno â dosbarth Dysgu Cymraeg yn fuan. 

Sut dych chi’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd? 

Mae siarad Cymraeg adref yn teimlo’n hollol naturiol nawr. Hefyd, mae fy nghymydog yn siarad Cymraeg, a ’dyn ni’n sgwrsio dros wal yr ardd – sydd wedi bod yn ffordd wych o ymarfer yn anffurfiol!

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i ddysgwyr eraill?

Defnyddiwch y geiriau sydd gyda chi o gwmpas y tŷ, a chyn pen dim, mi ddaw’r iaith yn rhan naturiol o fywyd bob dydd.