Cwrs Mynediad a Sylfae
Mynediad a Sylfaen (Entry and Foundation)
Cyfeirnod y cwrs:
ff-54691
Hyd:
8 Wythnos
Dyddiad cychwyn:
07/06/2027
Dyddiad Gorffen:
30/07/2027
Amser + Diwrnod:
10:00 - 16:30 Dydd Llun - Dydd Gwener
Tafodiaith:
Gogledd
Ffrwd dysgu:
Pobl Ifanc (16-25)
Darparwr:
Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain
£100.00
Lle ar ôl:
11
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 02/06/2027
Ynglŷn â'r cwrs
Cwrs Cymraeg Dwys: Carlamu i’r Nod!
Dach chi’n barod i ymrwymo? Mae hwn yn gwrs dwys, carlam ar gyfer pobl ifanc 16–25 oed. Er mwyn llwyddo, mae presenoldeb bob dydd yn hanfodol. Os gallwch chi neilltuo’r amser, byddwch chi’n siaradwr Cymraeg hyderus ymhen dim o amser!
Manylion y Cwrs
- Lefel: Dechreuwyr (Mynediad 1 a 2 + rhan o Sylfaen).
- Ffocws: Cyflwyno geirfa, patrymau iaith syml, ac ymadroddion pob dydd. Mae’r pwyslais pennaf ar siarad yr iaith.
- Nod: Anelu i gwblhau dwy ran y lefel Mynediad a dechrau ar lefel Sylfaen
- Cost: AM DDIM i bobl 16–25 oed! Bydd y gostyngiad yn cael ei ychwanegu’n awtomatig wrth gofrestru.
Nodyn Pwysig: Mae hwn yn gwrs cyflym iawn. Dim ond os gallwch chi fynychu pob sesiwn y dylech chi gofrestru.
Adnoddau
Byddwch yn defnyddio’r llyfr: “Dysgu Cymraeg: Mynediad/Entry (A1) Fersiwn 2 - Gogledd Cymru”.
- Lawrlwytho: Gallwch ei gael YMA.
- Prynu: Rydym yn argymell cael copi caled o’ch siop Gymraeg leol neu www.ffolio.cymru.
Gwybodaeth Bellach
- Cymorth Ariannol: Os oes angen help arnoch gyda chostau eraill, mae cefnogaeth ar gael. Cliciwch yma am fanylion y Gronfa Ariannol.
- Canslo: Mae cynnal y cwrs yn dibynnu ar niferoedd.
Peidiwch ag oedi — cymerwch y cam nesaf a chofrestrwch rwan!