Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Mynediad Rhan 1 a 2

Mynediad 1 a 2 (Entry 1 and 2)
Hunan astudio a dosbarth
Hunan astudio a dosbarth
Cyfeirnod y cwrs: 26CM102wc
Hyd: 33 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 22/09/2026
Dyddiad Gorffen: 22/06/2027
Amser + Diwrnod: 18:30 - 21:00 Dydd Mawrth
Tafodiaith: Gogledd
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin
Lleoliad: Ysgol Bod Alaw, Abergele Rd, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7ST
£100.00
Lle ar ôl: 0
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 01/11/2026

Ynglŷn â'r cwrs

Dyma gwrs cyfunol wyneb yn wyneb i ddechreuwyr sy’n cyflwyno geirfa a phatrymau iaith syml ac ymadroddion pob dydd. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith.

Be’ ydy ‘dysgu cyfunol’?

Mae cwrs dysgu cyfunol yn cynnwys gwersi wyneb yn wyneb dan ofal tiwtor ac unedau hunan-astudio ar-lein y bydd angen i chi eu cwblhau cyn y gwersi. O ganlyniad, mi fyddwch chi’n cwblhau lefel Mynediad mewn blwyddyn academaidd. Felly, os oes gynnoch chi’r amser i ymroi i ddysgu ac os dach chi am wneud cynnydd cyflym, dyma’r cwrs i chi.

Gostyngiadau a Chymorth Ariannol

Cofrestrwch cyn 30 Medi i dderbyn gostyngiad o 50%. Defnyddiwch y cod disgownt WELSH26 wrth gofrestru.

Mae cyrsiau Cymraeg am ddim i:

- ddysgwyr ifainc (18–25 oed)

- staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor

- y gweithlu addysg yng Nghymru

Am fwy o fanylion, edrychwch ar ein tudalen ar y wefan neu anfonwch e-bost: dysgucymraeg@bangor.ac.uk

Mae cymorth ariannol ar gael drwy’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn, sy’n gallu helpu efo costau ychwanegol fel gofal plant, adnoddau, teithio a pharcio - https://dysgucymraeg.cymru/cymorth/cronfa-ariannol/

Llyfr Cwrs

Mi fydd angen i chi brynu fersiwn Gogledd Cymru o’r llyfr cwrs Mynediad. Dach chi’n medru prynu’r llyfr ar-lein - gwales.com, neu be‘ am gefnogi’ch siop lyfrau leol?

Nodyn Pwysig

Mae angen isafswm nifer o gofrestriadau i sicrhau bod y cwrs yn hyfyw. Os na fydd digon o bobl yn cofrestru ar y cwrs, mi fyddwn yn cysylltu â’r rhai sydd wedi cofrestru i drafod yr opsiynau eraill sydd ar gael.