Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2

Sylfaen 1 a 2 (Foundation 1 and 2)
Dosbarth rhithiol
Dosbarth rhithiol
Cyfeirnod y cwrs: OB27-46-S12-de
Hyd: 30 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 17/09/2026
Dyddiad Gorffen: 31/07/2027
Amser + Diwrnod: 09:30 - 14:00 Dydd Iau
Tafodiaith: De
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr
£100.00
Lle ar ôl: 4
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 31/10/2026

Ynglŷn â'r cwrs

Dyma gwrs sy’n adeiladu ar lefel Mynediad ac sy’n gofyn am rywfaint o brofiad o’r Gymraeg. Bydd y prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau bob dydd fel y teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau. Byddwn yn anelu at gwblhau’r cwrs Sylfaen erbyn diwedd y flwyddyn academaidd. Bydd y cwrs yn cael ei ddysgu mewn ystafell ddosbarth rhithiol Zoom dan arweiniad tiwtor am 30 wythnos. 

Bydd cost ychwanegol o £12 am y cwrslyfr, a gallwch brynu’r llyfr yma: https://bit.ly/CwrslyfrSylfaenNewyddDe 

‘Dyn ni’n cynnig gostyngiad Cyw Cynnar o 50% oddi ar ein cyrsiau ar hyn o bryd! Defnyddiwch y cod CYW26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs (rhaid i chi dalu’r ffi cwrs yn llawn erbyn 31/07/2026 i dderbyn y gostyngiad). Os eich cyflogwr sydd yn talu, a dych chi am i ni godi anfoneb, nid yw'r gostyngiad Cyw Cynnar yn cyfri. Os dych chi rhwng 18-25 oed, neu’n gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd y cwrs am ddim i chi!