Cwrs Mynediad Rhan 1
Ynglŷn â'r cwrs
Cwrs Mynediad Rhan 1
Tempo: Hamddenol
Nifer o ddosbarthiadau’r wythnos: 1
Hyd y dosbarth: 2.5 awr
Cwrs ar gyfer: Dechreuwyr
Lleoliad: Dosbarth ar-lein (Zoom)
Lefel paratoi cyn y dosbarth: Ysgafn. Ychydig o adolygu ac ymarfer rhwng gwersi
Llyfrau cwrs: Mynediad A1 (De Cymru) Fersiwn 2 ISBN: 9781998995905
Unedau a astudir: Mynediad 1–14
LLYFRAU CWRS:
Nid yw pris y llyfrau cwrs yn gynwysedig yn y ffi cwrs (oni nodir yn wahanol).
Rydyn ni’n annog pob dysgwr i sicrhau copi caled o’r llyfr cwrs yn barod ar gyfer y wers gyntaf.
Mae llyfrau cwrs (tua £12) ac adnoddau eraill ar gael i ddysgwyr mewn siopau llyfrau Cymraeg lleol fel:
• Siop Tŷ’r Gwrhyd (Adeilad Yr Hen Lyfrgell, Pontardawe SA8 4ET)
• Siop Tŷ Tawe (Stryd Christina, Abertawe SA1 4EW).
Archebu ar-lein: https://www.ffolio.cymru (ewch i’r adran Dysgu Cymraeg)
Ceir copïau PDF (am ddim) ar wefan https://dysgucymraeg.cymru (ewch i’r adran adnoddau)
££ CYNLLUN GOSTYNGIADAU ££
Mae ystod o ostyngiadau i ffioedd cyrsiau DCABA ar gael – yn ddibynnol ar eich amgylchiadau. Efallai y byddwch yn gymwys i gael eich cwrs AM DDIM!
Os yn gymwys, defnyddiwch y cod arbennig perthnasol wrth ymgofrestru ar-lein i dderbyn gostyngiad ar y ffi llawn.
Gallwch weld holl fanylion y gostyngiadau yma (neu ar ein hafan https://dysgucymraeg.cymru/aba yn yr adran Cefnogaeth Ariannol)
Mewn rhai amgylchiadau arbennig, gall DCABA gynnig bwrsariaeth ar gyfer ffioedd cwrs. Gallwch ofyn am fanylion a ffurflen gais drwy gysylltu â: dysgucymraeg@abertawe.ac.uk