Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Mynediad a Sylfaen

Mynediad a Sylfaen (Entry and Foundation)
Hunan astudio a dosbarth rhithiol
Hunan astudio a dosbarth rhithiol
Cyfeirnod y cwrs: PF-RH-MS-0526
Hyd: 30 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 09/11/2026
Dyddiad Gorffen: 22/07/2027
Amser + Diwrnod: 09:30 - 12:30 Dydd Llun, Dydd Iau
Tafodiaith: De
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe
£100.00
Lle ar ôl: 16
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 07/12/2026

Ynglŷn â'r cwrs

Mynediad, Unedau 1-28. Sylfaen, Unedau 1-14. Lefel paratoi: Uchel. Paratoi 1.5-2 uned yr wythnos yn defnyddio'r adnoddau digidol arbennig sydd ar gael I'n dysgwyr. Cwrs Mynediad a Sylfaen Tempo: Cyflym / Dwys Nifer o ddosbarthiadau’r wythnos: 2 Hyd y dosbarth: 3 awr Cwrs ar gyfer: Dechreuwyr Lleoliad: Ar-lein (dosbarth rhithiol) Lefel paratoi cyn y dosbarth: Mae dysgu cyfeiriedig rhwng y dosbarthiadau yn rhan bwysig ac annatod o’r math hwn o gwrs cyflym sy'n mynd drwy 1.5 – 2 uned yr wythnos. Llyfrau cwrs: Mynediad A1 (De Cymru) Fersiwn 2 ISBN: 9781998995905 + Sylfaen A2 (De Cymru) Fersiwn 2 ISBN: 9781998995943 Unedau a astudir: Mynediad 1–28 + Sylfaen 1–14 LLYFRAU CWRS Nid yw pris y llyfrau cwrs wedi’i gynnwys yn ffi’r cwrs oni nodir yn wahanol. Anogir pawb i sicrhau copi caled o lyfr cwrs Mynediad yn barod ar gyfer y wers gyntaf. Mae llyfrau cwrs (tua £12) ac adnoddau eraill ar gael i ddysgwyr mewn siopau llyfrau Cymraeg lleol fel: Siop Tŷ’r Gwrhyd (Adeilad Yr Hen Lyfrgell, Pontardawe SA8 4ET) Siop Tŷ Tawe (Stryd Christina, Abertawe SA1 4EW) Archebu ar-lein: https://www.ffolio.cymru (ewch i’r adran Dysgu Cymraeg) Mae copïau PDF am ddim ar gael ar y wefan: https://dysgucymraeg.cymru (ewch i’r adran Adnoddau) ££ CYNLLUN GOSTYNGIADAU ££ Mae ystod o ostyngiadau ar ffioedd cyrsiau DCABA ar gael, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Efallai y byddwch hyd yn oed yn gymwys i gael cwrs AM DDIM. Os ydych yn gymwys, defnyddiwch y cod perthnasol wrth gofrestru ar-lein er mwyn derbyn gostyngiad ar ffi lawn y cwrs. Mae’r holl fanylion ar gael ar ein tudalen hafan: https://dysgucymraeg.cymru/aba (ewch i’r adran Cefnogaeth Ariannol). Mewn rhai amgylchiadau, gall DCABA hefyd gynnig bwrsariaethau i dalu ffioedd cwrs. Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â: dysgucymraeg@abertawe.ac.uk.