Cwrs Canolradd Rhan 2
Ynglŷn â'r cwrs
Parhad o’r cwrs Canolradd sydd wedi cyrraedd uned 15 o’r cwrs Canolradd. Mae'r cwrs yn adeiladu ar lefelau cychwynnol y cwrs Canolradd, ac mae’n addas ar gyfer pobl sy’n gyfarwydd â phrif batrymau’r Gymraeg. Bydd cyfle i ddatblygu sgiliau sgwrsio, gydag ychydig mwy o waith ysgrifennu, darllen a gwrando. Byddwch yn anelu at gwblhau lefel Canolradd ar y cwrs hwn. Byddwn yn dysgu’r cwrs mewn ystafell ddosbarth rhithiol Zoom dan arweiniad tiwtor am 30 wythnos.
Bydd cost ychwanegol o £12 am y cwrslyfr, a gallwch brynu’r llyfr yma: http://bit.ly/CwrslyfrCanolraddDe
‘Dyn ni’n cynnig gostyngiad Cyw Cynnar o 50% oddi ar ein cyrsiau ar hyn o bryd! Defnyddiwch y cod CYW26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs (rhaid i chi dalu’r ffi cwrs yn llawn erbyn 31/07/2026 i dderbyn y gostyngiad). Os eich cyflogwr sydd yn talu, a dych chi am i ni godi anfoneb, nid yw'r gostyngiad Cyw Cynnar yn cyfri. Os dych chi rhwng 18-25 oed, neu’n gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd y cwrs am ddim i chi!