Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Gloywi Iaith

Gloywi (Proficiency)
Dosbarth rhithiol
Dosbarth rhithiol
Cyfeirnod y cwrs: OB27-40-GI
Hyd: 30 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 15/09/2026
Dyddiad Gorffen: 31/07/2027
Amser + Diwrnod: 10:00 - 12:00 Dydd Mawrth
Tafodiaith: D/B
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr
£100.00
Lle ar ôl: 5
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 31/10/2026

Ynglŷn â'r cwrs

Cwrs yw hwn ar gyfer dysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg sydd am wella eu sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu. Nod y cwrs yw gloywi sgwrs ac ysgrifen yn y Gymraeg, er mwyn rhoi’r gallu i chi ddefnyddio’r iaith yn hyderus ac yn gywir mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Dwy flynedd yw hyd y cwrs gloywi. Ar ddiwedd y cwrs, bydd modd i chi benderfynu a ydych am symud ymlaen i gwrs arall, er enghraifft cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, ynteu ddilyn cwrs gloywi arall gyda Dysgu Cymraeg. Erbyn diwedd y cwrs, byddwn yn eich paratoi i fod â’r gallu i: Ddefnyddio’r Gymraeg ar lafar yn hyderus a chywir i drafod ystod eang o bynciau yn ymwneud â materion cyfoes a chymdeithasol, diwylliant a’r byd gwaith; Deall iaith lafar naturiol, a siarad gyda rhythm, goslef, ynganiad a chyflymder naturiol; Ysgrifennu’n hyderus a chywir mewn gwahanol gyweiriau, gan gynnwys iaith ffurfiol ac anffurfiol; Deall a gwerthfawrogi llenyddiaeth Gymraeg ac iaith lenyddol, a’r gallu i drafod gwaith llenyddol. Er mwyn eich cynorthwyo i gyflawni’r nodau hyn, byddwn yn: Gwrando a gwylio ar glipiau o raglenni Cymraeg ar y cyfryngau er mwyn trafod amrywiaeth o bynciau ac ehangu geirfa; Darllen amrywiaeth o destunau, i gynnwys erthyglau cyfoes a darnau llenyddol, rhyddiaith a barddoniaeth, er mwyn ysgogi trafodaeth ac astudio ac ymarfer geirfa, arddull, a chyweiriau iaith; Gwahodd siaradwyr gwadd o bryd i’w gilydd, i drafod ystod eang o bynciau; Cyflwyno ac egluro agweddau ar ramadeg y Gymraeg, a chynnal tasgau ymarfer ysgrifennu’n gywir; Cynnal tasgau i ymarfer deall a siarad iaith lafar naturiol, gan ystyried tafodieithoedd lleol; Gosod gwaith cartref neu dasgau defnyddio’r Gymraeg yn rheolaidd, a fydd yn cynnwys ymarferion iaith, ysgrifennu darnau byrion, darllen testunau, neu dasgau penodol i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfa sy’n berthnasol i chi, e.e. yn gymdeithasol neu yn y byd gwaith. Byddwn yn rhoi adborth i chi er mwyn i chi wybod beth sy’n rhaid i chi ei wneud i wella; Bydd cyfle i chi gymryd rhan weithredol iawn yn y dosbarth, e.e. arwain neu gadeirio trafodaeth ar bwnc arbennig, neu gydweithio â dysgwyr eraill ar brosiect neu thema arbennig. Byddwn yn dysgu’r cwrs mewn ystafell ddosbarth rhithiol Zoom dan arweiniad tiwtor am 30 wythnos. ‘Dyn ni’n cynnig gostyngiad Cyw Cynnar o 50% oddi ar ein cyrsiau ar hyn o bryd! Defnyddiwch y cod CYW26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs (rhaid i chi dalu’r ffi cwrs yn llawn erbyn 31/07/2026 i dderbyn y gostyngiad). Os eich cyflogwr sydd yn talu, a dych chi am i ni godi anfoneb, nid yw'r gostyngiad Cyw Cynnar yn cyfri. Os dych chi rhwng 18-25 oed, neu’n gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd y cwrs am ddim i chi!