Cwrs Mynediad Rhan 2 - Cymraeg yn y Cartref
Ynglŷn â'r cwrs
**Cwrs am ddim i rieni a gofalwyr plant Ysgol Calon Cymru **
Bydd y cwrs yn dechrau ar Uned 22 y cwrslyfr gyda llawer o adolygu cyn symud ymlaen gyda Mynediad 2.
Cwrs Cymraeg yn y Cartref 30 wythnos sy'n adeiladu ar y Cwrs Cymraeg yn y Cartref Mynediad 1. Mae’r cwrs ar gyfer rhieni a gofalwyr ac yn cyflwyno geirfa, ymadroddion a phatrymau iaith sy'n berthnasol i fyd plant, ysgol a theulu. Byddwch yn dysgu llawer o ganeuon ac yn defnyddio gwefannau ac adnoddau sy’n berthnasol i fyd plant.
Bydd y cwrs yn cael ei ddysgu mewn ystafell ddosbarth rithiol Zoom dan arweiniad tiwtor am 1.5 awr yr wythnos gan ddefnyddio tafodiaith y De.
Bydd cost ychwanegol o £12 am y cwrslyfr Mynediad a byddwn ni hefyd yn defnyddio Atodiad Cymraeg yn y Cartref. 'Dyn ni’n cynnig gostyngiad Cyw Cynnar o 50% oddi ar ein cyrsiau ar hyn o bryd! Defnyddiwch y cod CYW26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs.