Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Mynediad Rhan 1 - Cymraeg yn y Cartref

Mynediad 1 (Entry 1)
Dosbarth rhithiol
Dosbarth rhithiol
Cyfeirnod y cwrs: CC27-09-M1-de
Hyd: 30 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 16/09/2026
Dyddiad Gorffen: 31/07/2027
Amser + Diwrnod: 13:15 - 14:45 Dydd Mercher
Tafodiaith: De
Ffrwd dysgu: Cymraeg yn y Cartref
Darparwr: Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr
£70.00
Lle ar ôl: 2
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 31/10/2026

Ynglŷn â'r cwrs

Bydd y cwrs yn dechrau ar Uned 10  y cwrslyfr Mynediad gyda llawer o adolygu unedau Mynediad 1 cyn symud ymlaen i Mynediad 2. 

Cwrs Cymraeg yn y Cartref 30 wythnos. Mae’r cwrs ar gyfer rhieni a gofalwyr ac yn cyflwyno geirfa, ymadroddion a phatrymau iaith pob dydd. Byddwch yn dysgu llawer o ganeuon ac yn defnyddio gwefannau ac adnoddau sy’n berthnasol i fyd plant. Bydd y cwrs yn cael ei ddysgu mewn ystafell ddosbarth rithiol Zoom dan arweiniad tiwtor am 1.5 awr yr wythnos gan ddefnyddio tafodiaith y De. 

Bydd cost ychwanegol o £12 am y cwrslyfr Mynediad a byddwn ni hefyd yn defnyddio Atodiad Cymraeg yn y Cartref. 'Dyn ni’n cynnig gostyngiad Cyw Cynnar o 50% oddi ar ein cyrsiau ar hyn o bryd! Defnyddiwch y cod CYW26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs.