Cwrs Gloywi Iaith
Ynglŷn â'r cwrs
Cwrs Gloywi
Mae'r Cwrs Gloywi yn addas gyfer y rheiny sy'n siarad Cymraeg yn eithaf rhugl (fel mamiaith neu ail iaith) ond sy am wella eu gallu yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Mae’n bosibl iawn bod dysgwyr ar gwrs Gloywi heb gwblhau arholiad Uwch yn llwyddiannus eto. Os felly, gobeithir y byddant yn ei sefyll ar ddiwedd y flwyddyn.
Bydd y cwrs hwn yn addas i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr profiadol fel eu bod yn gallu gloywi eu sgiliau ysgrifennu Cymraeg yn ogystal â meithrin eu sgiliau llafar wrth siarad Cymraeg dan bob amgylchiad mewn amrywiol sefyllfaoedd.
Er nad oes cwrslyfr cenedlaethol fel y cyfryw, bydd y cwrs hwn yn ymwneud â nifer o eitemau amrywiol er mwyn sicrhau bod pawb yn y dosbarth yn elwa ac yn defnyddio’r gweithgareddau i adolygu yn ogystal â llenwi bylchau yn eu gwybodaeth
Bydd y cwrs yn cynnwys y canlynol:
- Siarad a thrafod pynciau pob dydd a newyddion cyfoes – Cymru a’r byd
- Gwrando ar ganeuon - hen a modern
- Edrych ar erthyglau o gylchgronau megis, Golwg, Barn, Y Wawr, Y Cymro, Cymru Fyw
- Gwrando ar ddarnau newyddion/rhaglenni
- Edrych ar wallau cyffredin a’u dadansoddi er mwyn gwella
- Cyfieithu
- Gwrando ar gyfres o siaradwyr gwadd.
- Ond yn anad dim rhoddir pwyslais mawr ar feithrin yr hyder i siarad mor rhugl ag sy’n bosibl.
Bydd y cwrs yn defnyddio adnoddau/gweithgareddau gramadegol, newyddiadurol a llenyddol o nifer o ffynonellau gwahanol er mwyn cynorthwyo aelodau’r dosbarth i wella’u Cymraeg a sicrhau eu bod yn gallu cyflwyno safbwynt a mynegi barn.
Yn ogystal â gwella cywirdeb y dysgwyr trwy ymarferion iaith, gwneir ymdrech i godi ymwybyddiaeth o hanes a diwylliant Cymru gan ddefnyddio unwaith eto ystod eang iawn o ffynonellau er mwyn sicrhau gwell ddealltwriaeth o’r Gymru gyfoes, ei hanes a’i llên.
CODAU GOSTYNGIAD
Defnyddiwch y codau disgownt isod i dderbyn gostyngiad yn eich ffioedd
- Dysgwyr Cyfredol (50%) - CYW26
- Dysgwyr Newydd (50%) - WELSH26
- Ar gyfer y Gweithlu Addysg (h.y. yr holl staff sy’n gweithio o fewn addysg) (100%) - ADDYSG
- Bydd pob dysgwr rhwng 16-25 oed yn derbyn gostyngiad o 100% yn awtomatig
Rhaid i chi nodi'r cod uchod ar y dudalen dalu i dderbyn y gostyngiad.
Os hoffech chi dalu mewn rhandaliadau neu i drafod y ffioedd, cysylltwch â welsh@coleggwent.ac.uk
Am fwy o wybodaeth ar ffioedd, gostyngiadau a llyfrau ewch i www.dysgucymraeg.cymru/gwent
Dosbarth yn llawn? Cliciwch yma i lenwi ffurflen Rhestr Aros: https://forms.cloud.microsoft/e/gKVtDA0U95