Cwrs Sylfaen Rhan 2
Ynglŷn â'r cwrs
Bydd y cwrs yn dechrau ar Uned 11 y cwrslyfr Sylfaen . Mae'r cwrs hwn am ddim i rieni Ysgol Bro Teifi - defnyddiwch y cod YBT26 os yw eich plentyn yn yr ysgol. Yn anffodus, rhaid i bawb arall dalu am y cwrs.
Cwrs Cymraeg yn y Cartref 30 wythnos sy'n adeiladu ar y Cwrs Sylfaen 1. Mae’r cwrs ar gyfer rhieni a gofalwyr ac yn cyflwyno geirfa, ymadroddion a phatrymau iaith perthnasol i fyd plant, ysgol a theulu. Byddwch yn dysgu llawer o ganeuon ac yn defnyddio gwefannau ac adnoddau sy’n berthnasol i fyd plant.
Bydd y cwrs yn cael ei ddysgu mewn ystafell ddosbarth rithiol Zoom dan arweiniad tiwtor am 1.5 awr yr wythnos gan ddefnyddio tafodiaith y De.
Bydd cost ychwanegol o £12 am y cwrslyfr Sylfaen a byddwn ni hefyd yn defnyddio Atodiad Cymraeg yn y Cartref. 'Dyn ni’n cynnig gostyngiad Cyw Cynnar o 50% oddi ar ein cyrsiau ar hyn o bryd! Defnyddiwch y cod: WELSH26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs.