Cwrs Sylfaen Rhan 1
Ynglŷn â'r cwrs
Bydd y cwrs yn dechrau ar Uned 4 y cwrslyfr Sylfaen.
Dyma gwrs Cymraeg yn y Cartref ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n adeiladu ar lefel Mynediad ac sy’n gofyn am rywfaint o brofiad o’r Gymraeg. Bydd y prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau perthnasol i fyd plant, ysgol a theulu. Byddwch yn cwblhau tua hanner lefel Sylfaen ar y cwrs hwn. Byddwn ni’n dysgu’r cwrs mewn ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb dan arweiniad tiwtor am 30 wythnos.
‘Dyn ni’n cynnig gostyngiad Cyw Cynnar o 50% oddi ar ein cyrsiau ar hyn o bryd! Defnyddiwch y cod CYW26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs (rhaid i chi dalu’r ffi cwrs yn llawn erbyn 31/07/2026 i dderbyn y gostyngiad). Os eich cyflogwr sydd yn talu, a dych chi am i ni godi anfoneb, nid yw'r gostyngiad Cyw Cynnar yn cyfri. Os dych chi rhwng 18-25 oed, neu’n gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd y cwrs am ddim i chi!