Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Canolradd Rhan 1

Canolradd 1 (Intermediate 1)
Dosbarth
Dosbarth
Cyfeirnod y cwrs: MYN-g-54906
Hyd: 32 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 09/09/2026
Dyddiad Gorffen: 09/06/2027
Amser + Diwrnod: 19:00 - 21:00 Dydd Mercher
Tafodiaith: De
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Gwent
Lleoliad: Llanelly Hill Welfare Hall, Unnamed Road, Y Fenni, Y Fenni, NP7 0PW
£100.00
Lle ar ôl: 15
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 16/03/2027

Ynglŷn â'r cwrs

Cwrs Canolradd Rhan 1:

Cwrs sy’n addas i bwy? I ddysgwyr sy wedi cwblhau’r cwrs Sylfaen a hefyd, ar gyfer pobl sy’n gyfarwydd ȃ phrif batrymau’r iaith

Pa lyfr? Cwrs Canolradd (Fersiwn y De)

Pa unedau? 1-10

Nifer y sesiynau? 32

Fformat y cwrs? 2 awr yr wythnos (gan gynnwys gwaith cartref wythnosol)

Dull dysgu? Wyneb yn Wyneb / Face to Face

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?:

  • Adolygu ac ymestyn eich sgiliau siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu
  • Mynegi barn (Dw i’n meddwl bod…)
  • Cwyno am rywbeth (trafod byth ac erioed)
  • Rhoi cymorth (adolygu’r dyfodol cryno)
  • Derbyn, gwrthod gwahoddiad a gwadu (adolygu arddodiaid)
  • Rhoi cyfarwyddiadau (dysgu arddodiaid cyfansawdd)
  • Perswadio (Dylwn I fod wedi…)
  • Trafod pynciau gwahanol
  • Cwblhau tasgau darllen, gwrando ac ysgrifennu

Mae’r dosbarthiadau’n hwyl ac yn anffurfiol a chewch groeso twymgalon iawn gan ein tiwtoriaid profiadol a chyfeillgar.

CODAU GOSTYNGIAD

Defnyddiwch y codau disgownt isod i dderbyn gostyngiad yn eich ffioedd

  • Dysgwyr Cyfredol (50%) - CYW26
  • Dysgwyr Newydd (50%) - WELSH26
  • Ar gyfer y Gweithlu Addysg (h.y. yr holl staff sy’n gweithio o fewn addysg) (100%) - ADDYSG
  • Bydd pob dysgwr rhwng 16-25 oed yn derbyn gostyngiad o 100% yn awtomatig

Rhaid i chi nodi'r cod uchod ar y dudalen dalu i dderbyn y gostyngiad.

Os hoffech chi dalu mewn rhandaliadau neu i drafod y ffioedd, cysylltwch â welsh@coleggwent.ac.uk 

Am fwy o wybodaeth ar ffioedd, gostyngiadau a llyfrau ewch i www.dysgucymraeg.cymru/gwent 

Dosbarth yn llawn? Cliciwch yma i lenwi ffurflen Rhestr Aros: https://forms.cloud.microsoft/e/gKVtDA0U95