Cwrs Mynediad Rhan 2
Ynglŷn â'r cwrs
Mynediad Rhan 2
Tempo : Hamddenol
Nifer o ddosbarthiadau’r wythnos: 1
Hyd y dosbarth: 2 awr
Cwrs ar gyfer: Dechreuwyr sydd wedi cwblhau Mynediad Rhan 1
Lleoliad: Dosbarth wyneb yn wyneb ym Mhennard
Cwrslyfr: Mynediad A1 (De Cymru) Fersiwn 2 [ ISBN: 9781998995905]
Unedau a astudir: 15-28
Lefel paratoi cyn y dosbarth: Isel. Bydd rhywfaint o waith adolygu i'w wneud rhwng gwersi
LLYFRAU CWRS:
Nid yw pris y llyfrau cwrs yn gynwysedig yn y ffi cwrs oni nodir yn wahanol.
Anogir pawb i sicrhau copi caled o’r llyfr cwrs yn barod ar gyfer y wers gyntaf.
Mae llyfrau cwrs ( am tua £12)) ac adnoddau eraill ar gael i ddysgwyr mewn siopau llyfrau Cymraeg lleol fel:
• Siop Tŷ’r Gwrhyd (Adeilad Yr Hen Lyfrgell, Pontardawe SA8 4ET)
• Siop Tŷ Tawe (Stryd Christina, Abertawe SA1 4EW).
Archebu ar-lein: https://www.ffolio.cymru ewch i’r adran Dysgu Cymraeg
Copïau PDF (am ddim) ar wefan https://dysgucymraeg.cymru (ewch i’r adran adnoddau)
££ CYNLLUN GOSTYNGIADAU ££
Mae ystod o ostyngiadau i ffioedd cyrsiau DCABA ar gael – yn ddibynnol ar eich amgylchiadau e.e. WELSH26 sy'n rhoi 50% o ostyngiad i ddechreuwyr. Gall rhai dysgwyr dderbyn eu cwrs am ddim!
Os yn gymwys, defnyddiwch y cod arbennig wrth ymgofrestru ar-lein ar gwrs i dderbyn gostyngiad ar y ffi llawn.
Gallwch weld yr holl fanylion ar ein tudalen hafan www.dysgucymraeg.cymru/aba - Cymorth Ariannol
Mewn rhai amgylchiadau arbennig, gall DCABA gynnig bwrsariaeth ar gyfer ffioedd cwrs. Gallwch ofyn am fanylion a ffurflen gais drwy gysylltu â: dysgucymraeg@abertawe.ac.uk
Pob lwc wrth ddechrau ar eich taith iaith!