Cwrs Uwch 2 - Rhan ii
Ynglŷn â'r cwrs
Cwrs Uwch ii Rhan 2:
Cwrs sy’n addas i bwy? I ddysgwyr sy wedi cwblhau’r cwrs Uwch 1 ac ar gyfer pobl sy’n gyfarwydd ȃ phrif batrymau’r Gymraeg
Pa lyfr? Cwrs Uwch 2
Nifer y sesiynau?32
Fformat y cwrs?3 awr yr wythnos (gan gynnwys gwaith cartref wythnosol)
Dull dysgu? Dosbarth
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?:
- Adolygu a dysgu patrymau newydd
- Datblygu a gwella eich sgiliau siarad
- Mwynhau darnau darllen, gwylio a gwrando sy’n dod o lyfrau neu gylchgronau Cymraeg, ac o raglenni ar Radio Cymru ac S4C.
- Trafod themȃu (De a Gogledd, Fuch chi erioed yn…?, Chwedlau Cymru, Operȃu Sebon, Sefydliadau Cymru, Rhyfel, Diwydiant, Chwaraeon, Papurau Bro, Troseddwyr Enwog o Gymru, Hiwmor, Cefndryd Celtaidd,Dewi Sant a phobl gymwynasgar a charedig)
- Tafodieithoedd
- Gorffennol cryno ‘bod’
- Treigladau
- Yr amodol
- Y cymal enwoL
- Yr Amhersonol
- Cymalau ‘a’ (y dyn a welais i)
- Cymalau negyddol
- Ansoddeiriau benywaidd a lluosog
- Rhagddodiaid ac öl-ddodiaid
- Geiriau lluosog
- Cyfieithu ‘for’
Mae’r dosbarthiadau’n hwyl ac yn anffurfiol a chewch groeso twymgalon iawn gan ein tiwtoriaid profiadol a chyfeillgar.
CODAU GOSTYNGIAD
Defnyddiwch y codau disgownt isod i dderbyn gostyngiad yn eich ffioedd
- Dysgwyr Cyfredol (50%) - CYW26
- Dysgwyr Newydd (50%) - WELSH26
- Ar gyfer y Gweithlu Addysg (h.y. yr holl staff sy’n gweithio o fewn addysg) (100%) - ADDYSG
- Bydd pob dysgwr rhwng 16-25 oed yn derbyn gostyngiad o 100% yn awtomatig
Rhaid i chi nodi'r cod uchod ar y dudalen dalu i dderbyn y gostyngiad.
Os hoffech chi dalu mewn rhandaliadau neu i drafod y ffioedd, cysylltwch â welsh@coleggwent.ac.uk
Am fwy o wybodaeth ar ffioedd, gostyngiadau a llyfrau ewch i www.dysgucymraeg.cymru/gwent
Dosbarth yn llawn? Cliciwch yma i lenwi ffurflen Rhestr Aros: https://forms.cloud.microsoft/e/gKVtDA0U95