Cwrs Uwch 3 - Rhan i
Ynglŷn â'r cwrs
Cwrs Uwch iii Rhan 1:
Cwrs sy’n addas i bwy? I ddysgwyr sy wedi cwblhau’r cwrs Uwch 2 neu sy’n gyfarwydd ȃ phrif batrymau’r Gymraeg a hefyd, i’r rhai sy eisiau paratoi at yr arholiad Uwch
Pa lyfr? Cwrs Uwch 3
Pa unedau? 1-5
Nifer y sesiynau?36
Fformat y cwrs? 2.5 awr yr wythnos (gan gynnwys gwaith cartref wythnosol)
Dull dysgu? Ar-lein / On-line
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?:
- Datblygu a gwella eich sgiliau siarad
- Mwynhau darnau darllen, gwylio a gwrando sy’n dod o lyfrau neu gylchgronau Cymraeg, ac o raglenni ar Radio Cymru ac S4C.
- Trafod themȃu (Cylchgronau Cymraeg, Mudiadau Cymraeg, Cerddoriaeth Gymraeg, Trychineb Aber-fan, Protestio dros yr Iaith)
- Trafod pynciau llosg
- Tasgau ‘Gwybodaeth o Iaith’ – aralleirio, dewis y ffurf gywir, llenwi bylchau
- Cymraeg ffurfiol
- Defnyddio ‘sawl’ / ‘llawer o’
- ‘Newydd’ + treiglad meddal
- Defnyddio ‘mawr angen’ / ‘gwir angen’
- Defnyddio ein / eich / ei gilydd
- Defnyddio ‘po’
- Cymalau sy’n defnyddio ‘y’
- Geirau tebyg
- Brawddegau negyddol
Mae’r dosbarthiadau’n hwyl ac yn anffurfiol a chewch groeso twymgalon iawn gan ein tiwtoriaid profiadol a chyfeillgar.
CODAU GOSTYNGIAD
Defnyddiwch y codau disgownt isod i dderbyn gostyngiad yn eich ffioedd
- Dysgwyr Cyfredol (50%) - CYW26
- Dysgwyr Newydd (50%) - WELSH26
- Ar gyfer y Gweithlu Addysg (h.y. yr holl staff sy’n gweithio o fewn addysg) (100%) - ADDYSG
- Bydd pob dysgwr rhwng 16-25 oed yn derbyn gostyngiad o 100% yn awtomatig
Rhaid i chi nodi'r cod uchod ar y dudalen dalu i dderbyn y gostyngiad.
Os hoffech chi dalu mewn rhandaliadau neu i drafod y ffioedd, cysylltwch â welsh@coleggwent.ac.uk
Am fwy o wybodaeth ar ffioedd, gostyngiadau a llyfrau ewch i www.dysgucymraeg.cymru/gwent
Dosbarth yn llawn? Cliciwch yma i lenwi ffurflen Rhestr Aros: https://forms.cloud.microsoft/e/gKVtDA0U95