Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Uwch 3 - Rhan ii

Uwch 3 ii (Advanced 3 ii)
Dosbarth rhithiol
Dosbarth rhithiol
Cyfeirnod y cwrs: CAER-g-54858
Hyd: 32 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 10/09/2026
Dyddiad Gorffen: 27/05/2027
Amser + Diwrnod: 09:30 - 12:30 Dydd Iau
Tafodiaith: De
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Gwent
£100.00
Lle ar ôl: 11
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 16/03/2027

Ynglŷn â'r cwrs

Cwrs Uwch iii Rhan 2:

Cwrs sy’n addas i bwy? I ddysgwyr sy wedi cwblhau’r cwrs Uwch iii Rhan 1 neu sy’n gyfarwydd ȃ phrif batrymau’r Gymraeg a hefyd, i’r rhai sy eisiau sefyll yr arholiad Uwch

Pa lyfr? Cwrs Uwch 3

Pa unedau? 6-10

Nifer y sesiynau?32

Fformat y cwrs?3awr yr wythnos (gan gynnwys gwaith cartref wythnosol)

Dull dysgu? Ar-lein / On-line

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?:

  • Datblygu a gwella eich sgiliau siarad
  • Mwynhau darnau darllen, gwylio a gwrando sy’n dod o lyfrau neu gylchgronau Cymraeg, ac o raglenni ar Radio Cymru ac S4C.
  • Trafod themȃu (Cyfieithu’r Beibl, Mudiadau Cymraeg (Mudiad Meithrin, Merched y Wawr), Y Cymry ym Mhatagonia, yr Hen Ogledd a’r Hengerdd, Arferion y Nadolig a’r Calan yng Nghymru)
  • Trafod pynciau llosg
  • Tasgau ‘Gwybodaeth o Iaith’ – aralleirio, dewis y ffurf gywir, llenwi bylchau
  • Cymraeg ffurfiol
  • Trafod mae, sy, ydy/yw
  • Adolygu arddodiaid
  • Defnyddio ‘yn’ a ‘mewn’
  • Adolygu ansoddeiriau
  • i fod i…
  • Cywasgiadau – ‘wedi’i’ / ‘wedi’u’ / rhagenwau
  • Cenedl Enwau

Mae’r dosbarthiadau’n hwyl ac yn anffurfiol a chewch groeso twymgalon iawn gan ein tiwtoriaid profiadol a chyfeillgar.

CODAU GOSTYNGIAD

Defnyddiwch y codau disgownt isod i dderbyn gostyngiad yn eich ffioedd

  • Dysgwyr Cyfredol (50%) - CYW26
  • Dysgwyr Newydd (50%) - WELSH26
  • Ar gyfer y Gweithlu Addysg (h.y. yr holl staff sy’n gweithio o fewn addysg) (100%) - ADDYSG
  • Bydd pob dysgwr rhwng 16-25 oed yn derbyn gostyngiad o 100% yn awtomatig

Rhaid i chi nodi'r cod uchod ar y dudalen dalu i dderbyn y gostyngiad.

Os hoffech chi dalu mewn rhandaliadau neu i drafod y ffioedd, cysylltwch â welsh@coleggwent.ac.uk 

Am fwy o wybodaeth ar ffioedd, gostyngiadau a llyfrau ewch i www.dysgucymraeg.cymru/gwent 

Dosbarth yn llawn? Cliciwch yma i lenwi ffurflen Rhestr Aros: https://forms.cloud.microsoft/e/gKVtDA0U95