Cwrs Uwch 1 - Rhan ii
Ynglŷn â'r cwrs
Cwrs Uwch i Rhan 2:
Cwrs sy’n addas i bwy? I ddysgwyr sy wedi cwblhau’r cwrs Uwch i Rhan 1 ac ar gyfer pobl sy’n gyfarwydd ȃ phrif batrymau’r Gymraeg
Pa lyfr? Cwrs Uwch 1 (Fersiwn y De)
Pa unedau? 14-25
Nifer y sesiynau? 32
Fformat y cwrs? 3 awr yr wythnos (gan gynnwys gwaith cartref wythnosol)
Dull dysgu? Ar-lein / On-line
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?:
- Datblygu a gwella eich sgiliau siarad
- Mwynhau darnau darllen, gwylio a gwrando sy’n dod o lyfrau neu gylchgronau Cymraeg, ac o raglenni ar Radio Cymru ac S4C.
- Trafod themȃu (Ffasiwn, Amser, y tro cynta, Trefnu Taith, Does unman yn debyg i gartref…, Cerddoriaeth, Fi yw’r person gorau ar gyfer y swydd, Anifeiliaid Anwes, Teithio Cymru, Mynd allan am fwyd, Cyfathrebu, Yr Amgylchedd)
- Adolygu arddodiaid cyfansawdd
- Rhifolion
- Trefnolion
- Y cymal enwol (‘y’)
- Defnyddio pwyslais gyda’r cymal enwol
- Yr amodol cryno
- Byth ac erioed
- Hwn, hon, hyn
- Mewn ac yn
Mae’r dosbarthiadau’n hwyl ac yn anffurfiol a chewch groeso twymgalon iawn gan ein tiwtoriaid profiadol a chyfeillgar.
CODAU GOSTYNGIAD
Defnyddiwch y codau disgownt isod i dderbyn gostyngiad yn eich ffioedd
- Dysgwyr Cyfredol (50%) - CYW26
- Dysgwyr Newydd (50%) - WELSH26
- Ar gyfer y Gweithlu Addysg (h.y. yr holl staff sy’n gweithio o fewn addysg) (100%) - ADDYSG
- Bydd pob dysgwr rhwng 16-25 oed yn derbyn gostyngiad o 100% yn awtomatig
Rhaid i chi nodi'r cod uchod ar y dudalen dalu i dderbyn y gostyngiad.
Os hoffech chi dalu mewn rhandaliadau neu i drafod y ffioedd, cysylltwch â welsh@coleggwent.ac.uk
Am fwy o wybodaeth ar ffioedd, gostyngiadau a llyfrau ewch i www.dysgucymraeg.cymru/gwent
Dosbarth yn llawn? Cliciwch yma i lenwi ffurflen Rhestr Aros: https://forms.cloud.microsoft/e/gKVtDA0U95