Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Uwch 3 - Rhan i a ii

Uwch 3 i (Advanced 3 i)
Hunan astudio a dosbarth rhithiol
Hunan astudio a dosbarth rhithiol
Cyfeirnod y cwrs: 26YU301c
Hyd: 34 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 14/09/2026
Dyddiad Gorffen: 21/06/2027
Amser + Diwrnod: 18:30 - 21:00 Dydd Llun
Tafodiaith: Gogledd
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin
£100.00
Lle ar ôl: 5
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 01/11/2026

Ynglŷn â'r cwrs

Dyma gwrs Uwch 3 cyfunol sy’n eich paratoi’n benodol ar gyfer sefyll yr arholiad Uwch ym mis Mehefin 2027.

Cwrs dysgu cyfunol ydy hwn, sy'n cynnwys gwersi rhithiol dan arweiniad tiwtoriaid (Zoom) ac unedau hunan-astudio y bydd angen i chi eu cwblhau ar-lein cyn y gwersi. Mi fyddwch chi’n cwblhau’r cwrs Uwch 3 mewn blwyddyn o ganlyniad. Felly, os oes gynnoch chi’r amser i ymroi i’r dysgu a’ch bod eisiau sefyll yr arholiad Uwch yn 2027, dyma’r cwrs i chi.

Mae’r cwrs yn cael ei gynnal mewn dosbarth rhithiol. Mi fydd y gwersi byw ar-lein dan ofal tiwtor ar Zoom.

Rhestr Wirio Offer TG

Mi fyddwch chi angen cyfrifiadur / gliniadur / tabled gyda meicroffon a chamera i gymryd rhan yn y gwersi. Mi fydd angen i chi droi eich camera ymlaen yn ystod gwersi er mwyn cymryd rhan lawn yn y broses ddysgu.

Gostyngiadau a chymorth ariannol

Cofrestrwch cyn Gorffennaf 31 i dderbyn gostyngiad o 50%. Cofiwch ddefnyddio'r cod CYW26 wrth gofrestru.

Mae cyrsiau Cymraeg am ddim

  • i ddysgwyr ifainc (18-25 oed)
  • staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor
  • y gweithlu addysg yng Nghymru.

Edrychwch ar ein tudalen ar y wefan am fanylion, neu anfonwch e-bost – dysgucymraeg@bangor.ac.uk

Mae cymorth ariannol hefyd ar gael drwy'r Gronfa Ariannol Wrth Gefn gyda chostau fel gofal plant, adnoddau, teithio a pharcio. Cliciwch ar y ddolen am fanylion  https://dysgucymraeg.cymru/cymorth/cronfa-ariannol/

Llyfr Cwrs

Sgynnoch chi gopi o’r llyfr cwrs Uwch 3? Dach chi’n medru prynu'r llyfr cwrs ar-lein – www.gwales.com neu be’ am gefnogi'ch siop lyfrau Gymraeg leol?

Nodyn Pwysig

Mae angen isafswm nifer o gofrestriadau i sicrhau bod y cwrs yn hyfyw. Os na fydd digon o bobl yn cofrestru ar y cwrs, mi fyddwn yn cysylltu â’r rhai sydd wedi cofrestru i drafod yr opsiynau eraill sydd ar gael.