Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Canolradd Rhan 1 a 2

Canolradd 1 a 2 (Intermediate 1 and 2)
Hunan astudio a dosbarth rhithiol
Hunan astudio a dosbarth rhithiol
Cyfeirnod y cwrs: CAER-g-54847
Hyd: 29 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 04/11/2026
Dyddiad Gorffen: 30/06/2027
Amser + Diwrnod: 13:00 - 16:00 Dydd Mercher
Tafodiaith: De
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Gwent
£100.00
Lle ar ôl: 10
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 16/03/2027

Ynglŷn â'r cwrs

Canolradd Rhan 1&2:

Cwrs sy’n addas i bwy? Cwrs dwys i ddysgwyr sy wedi cwblhau lefel Sylfaen neu sy’n gyfarwydd ȃ phrif batrymau’r iaith a hefyd, i’r rhai sy eisiau cwblhau lefel Canolradd Rhan 1 a 2 mewn blwyddyn.

Pa lyfr? Cwrs Canolradd (Fersiwn y De)

Pa unedau? 1-19

Nifer y sesiynau? 32

Fformat y cwrs? 3 awr yr wythnos mewn dosbarth rhithiol a hefyd dysgu’n annibynnol ar-lein gartre rhwng pob gwers (Mae’r dysgu’n annibynnol yn rhan annatod o’r cwrs)

Dull dysgu?Dosbarth

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?:

  • Adolygu ac ymestyn eich sgiliau siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu
  • Mynegi barn (Dw i’n meddwl bod…)
  • Cwyno am rywbeth (trafod byth ac erioed)
  • Rhoi cymorth (adolygu’r dyfodol cryno)
  • Derbyn, gwrthod gwahoddiad a gwadu (adolygu arddodiaid)
  • Rhoi cyfarwyddiadau (dysgu arddodiaid cyfansawdd)
  • Perswadio (Dylwn I fod wedi…)
  • Trafod pynciau gwahanol
  • Disgrifio pethau gan ddefnyddio patrwm y goddefol a’r amhersonol
  • Siarad am bobl a swyddi gan ddefnyddio ‘sy’, ‘oedd’, ‘fydd’
  • Mynegi barn gan ddefnyddio ‘taw’ a phwyslais
  • Defnyddio cywasgiadau (i + ei = i’w)
  • Dysgu dyddiadau
  • Dysgu sut i ddefnyddio ‘hwn’, ‘hwnna’, ‘hon’, ‘honna’, ‘y rhain’, ‘y rheina’
  • Paratoi at sefyll yr Arholiad Canolradd (opsiynol)

Mae’r dosbarthiadau’n hwyl ac yn anffurfiol a chewch groeso twymgalon iawn gan ein tiwtoriaid profiadol a chyfeillgar.

CODAU GOSTYNGIAD

Defnyddiwch y codau disgownt isod i dderbyn gostyngiad yn eich ffioedd

  • Dysgwyr Cyfredol (50%) - CYW26
  • Dysgwyr Newydd (50%) - WELSH26
  • Ar gyfer y Gweithlu Addysg (h.y. yr holl staff sy’n gweithio o fewn addysg) (100%) - ADDYSG
  • Bydd pob dysgwr rhwng 16-25 oed yn derbyn gostyngiad o 100% yn awtomatig

Rhaid i chi nodi'r cod uchod ar y dudalen dalu i dderbyn y gostyngiad.

Os hoffech chi dalu mewn rhandaliadau neu i drafod y ffioedd, cysylltwch â welsh@coleggwent.ac.uk 

Am fwy o wybodaeth ar ffioedd, gostyngiadau a llyfrau ewch i www.dysgucymraeg.cymru/gwent 

Dosbarth yn llawn? Cliciwch yma i lenwi ffurflen Rhestr Aros: https://forms.cloud.microsoft/e/gKVtDA0U95