Cwrs Canolradd Rhan 1 a 2
Ynglŷn â'r cwrs
Mawrth (8-11am), Mercher (8-10am), Gwener (8-11); 33 wythnos
Dyma gwrs dwys iawn am 8 awr yr wythnos sy'n adeiladu ar lefel Sylfaen ac sy'n addas ar gyfer pobl sy'n gyfarwydd â phrif batrymau'r Gymraeg. Bydd cyfle i ddatblygu sgiliau sgwrsio. Bydd ychydig mwy o waith ysgrifennu, darllen a gwrando. Byddwn yn anelu at gwblhau y cwrs Canolradd ac Uwch erbyn diwedd y flwyddyn academaidd. Byddwn yn dysgu’r cwrs mewn ystafell ddosbarth rhithiol Zoom dan arweiniad tiwtor am 33 wythnos.
Bydd cost ychwanegol o £12 am y cwrslyfr, a gallwch brynu’r llyfr yma: https://bit.ly/CwrslyfrCanolraddNewyddDe
‘Dyn ni’n cynnig gostyngiad Cyw Cynnar o 50% oddi ar ein cyrsiau ar hyn o bryd! Defnyddiwch y cod CYW26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs (rhaid i chi dalu’r ffi cwrs yn llawn erbyn 31/07/2026 i dderbyn y gostyngiad). Os eich cyflogwr sydd yn talu, a dych chi am i ni godi anfoneb, nid yw'r gostyngiad Cyw Cynnar yn cyfri. Os dych chi rhwng 18-25 oed, neu’n gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd y cwrs am ddim i chi!