Cwrs Mynediad a Sylfaen
Ynglŷn â'r cwrs
Mynediad Rhan 1 a 2 & Sylfaen Rhan 1:
Cwrs sy’n addas i bwy? Hoffech chi ddysgu tair blynedd o Gymraeg mewn blwyddyn? Wel, dyma'r cyrsiau i chi!
Cwrs dwys iawn i ddecureuwyr Pur sydd eisiau cwblhau Mynediad Rhan 1 a 2 & Sylfaen 1 mewn blwyddyn.
Pa lyfr? Cwrs Mynediad (Fersiwn y De) & Cwrs Sylfaen (Fersiwn y De)
Nifer y sesiynau? 32
Fformat y cwrs? 1 diwrnod llawn yr wythnos mewn dosbarth rhithiol
Dull dysgu?Ar-lein
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?:
- Siarad am bethau dyn ni'n hoffi a gweithgareddau bob dydd
- Mynegi dymuniad - eisiau
- Trafod o ble dyn ni'n dod a ble dyn ni'n mynd
- Dweud beth wnaethoch chi a phobl eraill yn y gorffennol
- Disgrifio'r tywydd
- Dweud beth gawsoch chi a phobl eraill a beth sy gyda chi a phobl eraill
- Disgrifio pethau yn y gorffennol a phethau ro'ch chi'n arfer eu gwneud
- Rhifau, amser ac arian
- Siarad am y dyfodol
- Siarad am eiddo
- Rhoi cyfarwyddiadau
- Trafod y gwaith, y teulu, gwyliau, siopa, yr ardal, diddordebau a llawer mwy
- Mynegi dymuniad a barn
- Trafod cyfnodau o amser
- Dysgu sut i ddefnyddio arddodiaid
Mae’r dosbarthiadau’n hwyl ac yn anffurfiol a chewch groeso twymgalon iawn gan ein tiwtoriaid profiadol a chyfeillgar.
CODAU GOSTYNGIAD
Defnyddiwch y codau disgownt isod i dderbyn gostyngiad yn eich ffioedd
- Dysgwyr Cyfredol (50%) - CYW26
- Dysgwyr Newydd (50%) - WELSH26
- Ar gyfer y Gweithlu Addysg (h.y. yr holl staff sy’n gweithio o fewn addysg) (100%) - ADDYSG
- Bydd pob dysgwr rhwng 16-25 oed yn derbyn gostyngiad o 100% yn awtomatig
Rhaid i chi nodi'r cod uchod ar y dudalen dalu i dderbyn y gostyngiad.
Os hoffech chi dalu mewn rhandaliadau neu i drafod y ffioedd, cysylltwch â welsh@coleggwent.ac.uk
Am fwy o wybodaeth ar ffioedd, gostyngiadau a llyfrau ewch i www.dysgucymraeg.cymru/gwent
Dosbarth yn llawn? Cliciwch yma i lenwi ffurflen Rhestr Aros: https://forms.cloud.microsoft/e/gKVtDA0U95