Cwrs Mynediad Rhan 2
Ynglŷn â'r cwrs
Cwrs wyneb yn wyneb yng Nghaerfyrddin.
Parhad o’r cwrs ar gyfer dechreuwyr sydd wedi cyrraedd uned 13 o'r cwrs Mynediad. Bydd y cwrs yn parhau i gyflwyno geirfa a phatrymau iaith syml ac ymadroddion bob dydd. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith. Byddwch yn anelu at gwblhau’r cwrs Mynediad erbyn diwedd y flwyddyn academaidd.
Bydd cost ychwanegol o £12 am y cwrslyfr, a gallwch brynu’r llyfr yma: http://bit.ly/CwrslyfrMynediadNewyddDe
’Dyn ni’n cynnig gostyngiad o 50% oddi ar ein cyrsiau i ddechreuwyr pur! Defnyddiwch y cod CYW26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs (rhaid i chi dalu’r ffi cwrs yn llawn erbyn 30/09/2026 i dderbyn y gostyngiad). Os eich cyflogwr sydd yn talu, a dych chi am i ni godi anfoneb, nid yw'r gostyngiad Cyw Cynnar yn cyfri. Os dych chi rhwng 18-25 oed, neu’n gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd y cwrs am ddim i chi!