Cwrs Sylfaen Rhan 2
Ynglŷn â'r cwrs
Cwrs Sylfaen Rhan 2:
Cwrs sy’n addas i bwy? I ddysgwyr sy wedi cwblhau’r cwrs Sylfaen Rhan 1 ac i’r rhai sydd ȃ rhywfaint o brofiad o’r Gymraeg.
Pa lyfr? Cwrs Sylfaen (Fersiwn y De)
Pa unedau? 15-27
Nifer y sesiynau? 32
Fformat y cwrs? 2 awr yr wythnos (gan gynnwys gwaith cartref wythnosol)
Dull dysgu? Ar-lein / On-line
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?:
- Disgrifio pobl a phethau
- Cymharu ansoddeiriau
- Cyfnewid gwybodaeth ffeithiol a phersonol
- Rhoi cyfarwyddiadau
- Ymarfer atebion
- Dysgu sut i gynghori (dylwn i..)
- Mynegi dymuniad a’r gallu I wneud rhywbeth (hoffwn I…, gallwn i…)
- Dysgu trefnolion
- Adolygu ffurfiau gwahanol ar y gorffennol
- Adolygu’r dyfodol
- Cwblhau tasgau darllen, gwrando ac ysgrifennu
- Paratoi at sefyll yr Arholiad Sylfaen (opsiynol)
Mae’r dosbarthiadau’n hwyl ac yn anffurfiol a chewch groeso twymgalon iawn gan ein tiwtoriaid profiadol a chyfeillgar.
CODAU GOSTYNGIAD
Defnyddiwch y codau disgownt isod i dderbyn gostyngiad yn eich ffioedd
- Dysgwyr Cyfredol (50%) - CYW26
- Dysgwyr Newydd (50%) - WELSH26
- Ar gyfer y Gweithlu Addysg (h.y. yr holl staff sy’n gweithio o fewn addysg) (100%) - ADDYSG
- Bydd pob dysgwr rhwng 16-25 oed yn derbyn gostyngiad o 100% yn awtomatig
Rhaid i chi nodi'r cod uchod ar y dudalen dalu i dderbyn y gostyngiad.
Os hoffech chi dalu mewn rhandaliadau neu i drafod y ffioedd, cysylltwch â welsh@coleggwent.ac.uk
Am fwy o wybodaeth ar ffioedd, gostyngiadau a llyfrau ewch i www.dysgucymraeg.cymru/gwent
Dosbarth yn llawn? Cliciwch yma i lenwi ffurflen Rhestr Aros: https://forms.cloud.microsoft/e/gKVtDA0U95