Cwrs Sylfaen Rhan 1
Ynglŷn â'r cwrs
Cwrs Sylfaen Rhan 1
Cwrs sy’n addas i bwy? I ddysgwyr sy wedi cwblhau lefel Mynediad Rhan 1 a 2 ac i’r rhai sydd ȃ rhywfaint o brofiad o’r Gymraeg.
Pa lyfr? Cwrs Sylfaen (Fersiwn y De)
Pa unedau? 1-14
Nifer y sesiynau? 32
Fformat y cwrs? 2 awr yr wythnos (gan gynnwys gwaith cartref wythnosol)
Dull dysgu? Wyneb yn Wyneb | Face to face
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?:
- Bydd y prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau pob dydd fel y teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau.
- Adolygu cyffredinol gyda phwyslais ar yr amser gorffennol yn benodol
- Mynegi dymuniad neu fwriad (yr amser amodol)
- Siarad am gael eich geni a’ch magu
- Mynegi barn (dw I’n meddwl bod…)
- Dysgu sut I ddefnyddio arddodiaid
- Mynegi bwriad, cynnig gwneud rhywbeth a gofyn cymwynas
- Trafod ble byddwch chi’n mynd yn y dyfodol
- Gofyn am ganiatȃd a’i roi
- Trafod cyfnodau o amser
- Cwblhau tasgau darllen, gwrando ac ysgrifennu
CODAU GOSTYNGIAD
Defnyddiwch y codau disgownt isod i dderbyn gostyngiad yn eich ffioedd
- Dysgwyr Cyfredol (50%) - CYW26
- Dysgwyr Newydd (50%) - WELSH26
- Ar gyfer y Gweithlu Addysg (h.y. yr holl staff sy’n gweithio o fewn addysg) (100%) - ADDYSG
- Bydd pob dysgwr rhwng 16-25 oed yn derbyn gostyngiad o 100% yn awtomatig
Rhaid i chi nodi'r cod uchod ar y dudalen dalu i dderbyn y gostyngiad.
Os hoffech chi dalu mewn rhandaliadau neu i drafod y ffioedd, cysylltwch â welsh@coleggwent.ac.uk
Am fwy o wybodaeth ar ffioedd, gostyngiadau a llyfrau ewch i www.dysgucymraeg.cymru/gwent
Dosbarth yn llawn? Cliciwch yma i lenwi ffurflen Rhestr Aros: https://forms.cloud.microsoft/e/gKVtDA0U95