Cwrs Sylfaen Rhan 2
Ynglŷn â'r cwrs
Cwrs wyneb yn wyneb sydd yn Llandrindod.
Parhad o’r cwrs Sylfaen sydd wedi cyrraedd uned 12 o’r cwrs Sylfaen. Cwrs sy’n gofyn am rywfaint o brofiad o’r Gymraeg. Bydd y prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau bob dydd fel y teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau. Byddwch yn cwblhau lefel Sylfaen ar y cwrs hwn.
Bydd cost ychwanegol o £12 am y cwrslyfr, a gallwch brynu’r llyfr yma: http://bit.ly/CwrslyfrSylfaenDe
‘Dyn ni’n cynnig gostyngiad Cyw Cynnar o 50% oddi ar ein cyrsiau ar hyn o bryd! Defnyddiwch y cod CYW26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs (rhaid i chi dalu’r ffi cwrs yn llawn erbyn 31/07/2026 i dderbyn y gostyngiad). Os eich cyflogwr sydd yn talu, a dych chi am i ni godi anfoneb, nid yw'r gostyngiad Cyw Cynnar yn cyfri. Os dych chi rhwng 18-25 oed, neu’n gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd y cwrs am ddim i chi!