Cwrs Mynediad Rhan 1 a 2
Ynglŷn â'r cwrs
Mynediad Rhan 1&2
Cwrs sy’n addas i bwy? Cwrs dwys i ddechreuwyr pur sy eisiau cwblhau lefel Mynediad Rhan 1 a 2 mewn blwyddyn
Pa lyfr? Cwrs Mynediad (Fersiwn y De)
Pa unedau? 1-28
Nifer y sesiynau? 32
Fformat y cwrs? 3 awr yr wythnos mewn dosbarth a hefyd dysgu’n annibynnol ar-lein gartre rhwng pob gwers (Mae’r dysgu’n annibynnol yn rhan annatod o’r cwrs)
Dull dysgu? Dosbarth ac Ar-lein
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?:
- Geirfa a phatrymau iaith syml ac ymadroddion pob dydd
- Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith ac ynganu’n gywir
- Gofyn am wybodaeth bersonol (am eich hunan ac am berson arall e.e. gwaith, byw, diddordebau)
- Siarad am y tywydd
- Siarad am eiddo a’r teulu
- Siarad am yr amser
- Siarad am bethau yn yr amser presennol a’r amser gorffennol
- Siarad am ddiddordebau
- Siarad am amser ac arian
- Siarad am ddigwyddiadau yn y dyfodol
- Rhoi gorchymnion
- Siarad am eich eiddo a’ch perthnasau
- Gofyn am eiddo a pherthnasau pobl eraill
- Gofyn am bethau mewn caffi
- Siarad am orfod gwneud pethau
- Cwblhau tasgau darllen, gwrando ac ysgrifennu
- Paratoi at sefyll yr Arholiad Mynediad (opsiynol)
Mae’r dosbarthiadau’n hwyl ac yn anffurfiol a chewch groeso twymgalon iawn gan ein tiwtoriaid profiadol a chyfeillgar.
CODAU GOSTYNGIAD
Defnyddiwch y codau disgownt isod i dderbyn gostyngiad yn eich ffioedd
- Dysgwyr Cyfredol (50%) - CYW26
- Dysgwyr Newydd (50%) - WELSH26
- Ar gyfer y Gweithlu Addysg (h.y. yr holl staff sy’n gweithio o fewn addysg) (100%) - ADDYSG
- Bydd pob dysgwr rhwng 16-25 oed yn derbyn gostyngiad o 100% yn awtomatig
Rhaid i chi nodi'r cod uchod ar y dudalen dalu i dderbyn y gostyngiad.
Os hoffech chi dalu mewn rhandaliadau neu i drafod y ffioedd, cysylltwch â welsh@coleggwent.ac.uk
Am fwy o wybodaeth ar ffioedd, gostyngiadau a llyfrau ewch i www.dysgucymraeg.cymru/gwent
Dosbarth yn llawn? Cliciwch yma i lenwi ffurflen Rhestr Aros: https://forms.cloud.microsoft/e/gKVtDA0U95