Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Uwch 2 - Rhan i

Uwch 2 i (Advanced 2 i)
Dosbarth rhithiol
Dosbarth rhithiol
Cyfeirnod y cwrs: BG-g-54829
Hyd: 32 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 08/09/2026
Dyddiad Gorffen: 25/05/2027
Amser + Diwrnod: 18:00 - 21:00 Dydd Mawrth
Tafodiaith: De
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Gwent
£100.00
Lle ar ôl: 3
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 16/03/2027

Ynglŷn â'r cwrs

Cwrs Uwch ii Rhan 1:

Cwrs sy’n addas i bwy? I ddysgwyr sy wedi cwblhau’r cwrs Uwch 1 ac ar gyfer pobl sy’n gyfarwydd ȃ phrif batrymau’r Gymraeg

Pa lyfr? Cwrs Uwch 2

Pa unedau? 1-13

Nifer y sesiynau?32

Fformat y cwrs?3 awr yr wythnos (gan gynnwys gwaith cartref wythnosol)

Dull dysgu? Ar-lein

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?:

  • Adolygu a dysgu patrymau newydd
  • Datblygu a gwella eich sgiliau siarad
  • Mwynhau darnau darllen, gwylio a gwrando sy’n dod o lyfrau neu gylchgronau Cymraeg, ac o raglenni ar Radio Cymru ac S4C.
  • Trafod themȃu (De a Gogledd, Fuch chi erioed yn…?, Chwedlau Cymru, Operȃu Sebon, Sefydliadau Cymru, Rhyfel, Diwydiant, Chwaraeon, Papurau Bro, Troseddwyr Enwog o Gymru, Hiwmor, Cefndryd Celtaidd,Dewi Sant a phobl gymwynasgar a charedig)
  • Tafodieithoedd
  • Gorffennol cryno ‘bod’
  • Treigladau
  • Yr amodol
  • Y cymal enwoL
  • Yr Amhersonol
  • Cymalau ‘a’ (y dyn a welais i)
  • Cymalau negyddol
  • Ansoddeiriau benywaidd a lluosog
  • Rhagddodiaid ac öl-ddodiaid
  • Geiriau lluosog
  • Cyfieithu ‘for’

Mae’r dosbarthiadau’n hwyl ac yn anffurfiol a chewch groeso twymgalon iawn gan ein tiwtoriaid profiadol a chyfeillgar.

CODAU GOSTYNGIAD

Defnyddiwch y codau disgownt isod i dderbyn gostyngiad yn eich ffioedd

  • Dysgwyr Cyfredol (50%) - CYW26
  • Dysgwyr Newydd (50%) - WELSH26
  • Ar gyfer y Gweithlu Addysg (h.y. yr holl staff sy’n gweithio o fewn addysg) (100%) - ADDYSG
  • Bydd pob dysgwr rhwng 16-25 oed yn derbyn gostyngiad o 100% yn awtomatig

Rhaid i chi nodi'r cod uchod ar y dudalen dalu i dderbyn y gostyngiad.

Os hoffech chi dalu mewn rhandaliadau neu i drafod y ffioedd, cysylltwch â welsh@coleggwent.ac.uk 

Am fwy o wybodaeth ar ffioedd, gostyngiadau a llyfrau ewch i www.dysgucymraeg.cymru/gwent 

Dosbarth yn llawn? Cliciwch yma i lenwi ffurflen Rhestr Aros: https://forms.cloud.microsoft/e/gKVtDA0U95