Cwrs Mynediad a Sylfaen
Ynglŷn â'r cwrs
Tempo: Cwrs Dwys
Nifer o ddosbarthiadau’r wythnos: 2 wers
Hyd y dosbarth: 3 awr
Cwrs ar gyfer: Dechreuwyr Pur
Lleoliad: Ar-lein
Cwrslyfr a ddefnyddir: Mynediad – Entry (A1) Fersiwn 2 (De Cymru – South Wales) & Sylfaen Foundation (A2) Fersiwn 2 (De Cymru – South Wales)
Unedau a astudir: Mynediad 1-28 & Sylfaen 1-14
Lefel paratoi cyn y dosbarth: Uchel. Mae dysgu cyfeiriedig rhwng y dosbarthiadau yn rhan pwysig ac annatod o’r math hwn o gwrs cyflym.
Llyfrau cwrs
Nid yw pris y llyfrau cwrs yn gynwysedig yn y ffi cwrs oni nodir yn wahanol.
Anogir pawb i sicrhau copi caled o’r llyfr cwrs cyfredol – cofiwch ddewis y fersiwn mwyaf diweddar ar gyfer De Cymru. Byddwch angen sicrhau copi yn barod ar gyfer y wers gyntaf.
Mae llyfrau cwrs ac adnoddau eraill i ddysgwyr (ar gael am tua £12) mewn siopau llyfrau Cymraeg lleol fel:
• Siop Tŷ’r Gwrhyd (Adeilad Yr Hen Lyfrgell, Pontardawe SA8 4ET)
• Siop Tŷ Tawe (Stryd Christina, Abertawe SA1 4EW).
Archebu ar-lein: https://www.ffolio.cymru ewch i’r adran Dysgu Cymraeg
Copïau PDF (am ddim) ar wefan https://dysgucymraeg.cymru (ewch i’r adran adnoddau)
££ Cynllun Gostyngiadau ££
Mae ystod o ostyngiadau i ffioedd cyrsiau DCABA ar gael – yn ddibynnol ar eich amgylchiadau. Os yn gymwys, gallwch ddefnyddio cod arbennig wrth ymgofrestru ar gwrs i dderbyn gostyngiad ar y ffi llawn.
Gallwch weld yr holl fanylion ar ein tudalen hafan www.dysgucymraeg.cymru/aba
Mewn rhai amgylchgiadau arbennig, gall DCABA gynnig bwrseriaeth ar gyfer ffioedd cwrs. Gallwch ofyn am fanylion a ffurflen gais drwy gysylltu â: dysgucymraeg@abertawe.ac.uk
Pob lwc ar eich taith i ddysgu Cymraeg!