Cwrs Gloywi Iaith
Ynglŷn â'r cwrs
Cwrs wyneb yn wyneb sydd yn y Bontfaen.
Cwrs yw hwn ar gyfer dysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg sydd am wella eu sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu. Nod y cwrs yw gloywi sgwrs ac ysgrifen yn y Gymraeg, er mwyn rhoi’r gallu i chi ddefnyddio’r iaith yn hyderus ac yn gywir mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Dwy flynedd yw hyd y cwrs gloywi. Ar ddiwedd y cwrs, bydd modd i chi benderfynu a ydych am symud ymlaen i gwrs arall, er enghraifft cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, ynteu ddilyn cwrs gloywi arall gyda Dysgu Cymraeg.
Erbyn diwedd y cwrs, byddwn yn eich paratoi i fod â’r gallu i:
- Ddefnyddio’r Gymraeg ar lafar yn hyderus a chywir i drafod ystod eang o bynciau yn ymwneud â materion cyfoes a chymdeithasol, diwylliant a’r byd gwaith;
- Deall iaith lafar naturiol, a siarad gyda rhythm, goslef, ynganiad a chyflymder naturiol;
- Ysgrifennu’n hyderus a chywir mewn gwahanol gyweiriau, gan gynnwys iaith ffurfiol ac anffurfiol; Deall a gwerthfawrogi llenyddiaeth Gymraeg ac iaith lenyddol, a’r gallu i drafod gwaith llenyddol.
Er mwyn eich cynorthwyo i gyflawni’r nodau hyn, byddwn yn:
- Gwrando a gwylio ar glipiau o raglenni Cymraeg ar y cyfryngau er mwyn trafod amrywiaeth o bynciau ac ehangu geirfa;
- Darllen amrywiaeth o destunau, i gynnwys erthyglau cyfoes a darnau llenyddol, rhyddiaith a barddoniaeth, er mwyn ysgogi trafodaeth ac astudio ac ymarfer geirfa, arddull, a chyweiriau iaith;
- Gwahodd siaradwyr gwadd o bryd i’w gilydd, i drafod ystod eang o bynciau; Cyflwyno ac egluro agweddau ar ramadeg y Gymraeg, a chynnal tasgau ymarfer ysgrifennu’n gywir;
- Cynnal tasgau i ymarfer deall a siarad iaith lafar naturiol, gan ystyried tafodieithoedd lleol; Gosod gwaith cartref neu dasgau defnyddio’r Gymraeg yn rheolaidd, a fydd yn cynnwys ymarferion iaith, ysgrifennu darnau byrion, darllen testunau, neu dasgau penodol i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfa sy’n berthnasol i chi, e.e. yn gymdeithasol neu yn y byd gwaith. Byddwn yn rhoi adborth i chi er mwyn i chi wybod beth sy’n rhaid i chi ei wneud i wella;
Bydd cyfle i chi gymryd rhan weithredol iawn yn y dosbarth, e.e. arwain neu gadeirio trafodaeth ar bwnc arbennig, neu gydweithio â dysgwyr eraill ar brosiect neu thema arbennig.
‘Dyn ni’n cynnig gostyngiad Cyw Cynnar o 50% oddi ar ein cyrsiau ar hyn o bryd! Defnyddiwch y cod CYW26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs (rhaid i chi dalu’r ffi cwrs yn llawn erbyn 31/07/2026 i dderbyn y gostyngiad). Os eich cyflogwr sydd yn talu, a dych chi am i ni godi anfoneb, nid yw'r gostyngiad Cyw Cynnar yn cyfri. Os dych chi rhwng 18-25 oed, neu’n gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd y cwrs am ddim i chi!