Cwrs Canolradd Rhan 1 a 2
Ynglŷn â'r cwrs
Dyma gwrs ar-lein lefel Canolradd (B1) sy’n adeiladu ar lefel Sylfaen (A2) ac sy’n addas ar gyfer pobl sy’n gyfarwydd â phrif batrymau’r Gymraeg. Mi fydd cyfle i ddatblygu sgiliau sgwrsio, gydag ychydig o waith ysgrifennu, darllen a gwrando. Mi fyddwch chi’n cwblhau lefel Canolradd mewn blwyddyn academaidd ar y cwrs dwys hwn.
Rhestr Wirio Offer TG
Mi fyddwch chi angen cyfrifiadur / gliniadur / tabled efo meicroffon a chamera i gymryd rhan yn y gwersi. Mi fydd angen i chi fod â’ch camera ymlaen yn ystod gwersi er mwyn cymryd rhan yn y broses ddysgu.
Gostyngiadau a chymorth ariannol
Cofrestrwch cyn Gorffennaf 31 i dderbyn gostyngiad o 50%. Cofiwch ddefnyddio'r cod CYW26 wrth gofrestru.
Mae cyrsiau Cymraeg am ddim
- i ddysgwyr ifainc (18-25 oed)
- staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor
- y gweithlu addysg yng Nghymru.
Edrychwch ar ein tudalen ar y wefan am fanylion, neu anfonwch e-bost – dysgucymraeg@bangor.ac.uk
Mae cymorth ariannol hefyd ar gael drwy'r Gronfa Ariannol Wrth Gefn gyda chostau fel gofal plant, adnoddau, teithio a pharcio. Cliciwch ar y ddolen am fanylion https://dysgucymraeg.cymru/cymorth/cronfa-ariannol/
Llyfr Cwrs
Mi fyddwch chi angen prynu llyfr cwrs Canolradd (Gogledd Cymru, fersiwn 2). Dach chi’n medru prynu'r llyfr cwrs ar-lein – www.gwales.com , neu be’ am gefnogi'ch siop lyfrau Gymraeg leol?
Nodyn Pwysig
Mae angen isafswm nifer o gofrestriadau i sicrhau bod y cwrs yn hyfyw. Os na fydd digon o bobl yn cofrestru ar y cwrs, mi fyddwn yn cysylltu â’r rhai sydd wedi cofrestru i drafod yr opsiynau eraill sydd ar gael.