Cwrs Sylfaen Rhan 1
Ynglŷn â'r cwrs
Mae'r dosbarth yma ar Uned 8 Sylfaen. Dyma gwrs sy’n adeiladu ar lefel Mynediad ac sy’n gofyn am rywfaint o brofiad o’r Gymraeg. Bydd y prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau bob dydd fel y teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau. Byddwch yn cwblhau tua hanner lefel Sylfaen ar y cwrs hwn. Byddwn ni’n dysgu’r cwrs mewn ystafell ddosbarth rhithiol Zoom dan arweiniad tiwtor am 30 wythnos.
Bydd cost ychwanegol o £12 am y cwrslyfr, a gallwch brynu’r llyfr yma: https://bit.ly/CwrslyfrSylfaenNewyddDe
‘Dyn ni’n cynnig gostyngiad Cyw Cynnar o 50% oddi ar ein cyrsiau ar hyn o bryd! Defnyddiwch y cod CYW26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs (rhaid i chi dalu’r ffi cwrs yn llawn erbyn 31/07/2026 i dderbyn y gostyngiad). Os eich cyflogwr sydd yn talu, a dych chi am i ni godi anfoneb, nid yw'r gostyngiad Cyw Cynnar yn cyfri. Os dych chi rhwng 18-25 oed, neu’n gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd y cwrs am ddim i chi!