Cwrs Arall
Ynglŷn â'r cwrs
Gwersi i Rieni - Lefel Uwch +
Cefnogi eich plentyn trwy gyfrwng y Gymraeg
Mae’r gyfres hon o chwe gwers wedi’i chynllunio ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n dysgu Cymraeg ar lefel Uwch a Gloywi. Mi fyddwch yn cael cyfle i gryfhau eich sgiliau iaith a’ch hyder er mwyn cefnogi eich plant yn yr ysgol uwchradd.
Beth sy’n wahanol?Mi fyddwn yn edrych ar agweddau allweddol o'r Cwricwlwm i Gymru trwy gyfrwng gwersi thematig, gan roi’r geirfa a’r cyd-destun sydd eu hangen arnoch i gefnogi addysg eich plentyn.
Oeddech chi’n gwybod? Mae’r Cwricwlwm newydd yn cwmpasu chwe Maes Dysgu a Phrofiad:
- Y Celfyddydau Mynegiannol
- Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mathemateg a Rhifedd
- Y Dyniadaethau
- Iechyd a Lles
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Be' gewch chi?
✔ Chwe gwers thematig sy’n berthnasol i fywyd ysgol uwchradd
✔ Cyfle i drafod, ymarfer a gloywi iaith
✔ Awgrymiadau ymarferol i gefnogi eich plentyn trwy gyfrwng y Gymraeg
Hyd y cwrs: 6 wythnos Lefel: Uwch / Gloywi Cyfrwng: ar-lein