Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Uwch 1 - Rhan i

Uwch 1 i (Advanced 1 i)
Dosbarth
Dosbarth
Cyfeirnod y cwrs: BM27-17-U1i
Hyd: 30 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 16/09/2026
Dyddiad Gorffen: 31/07/2027
Amser + Diwrnod: 12:30 - 14:30 Dydd Mercher
Tafodiaith: De
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Y Fro
Lleoliad: CF61, Station Rd, Llantwit Major -Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg, CF61 1ST
£100.00
Lle ar ôl: 3
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 31/10/2026

Ynglŷn â'r cwrs

Cwrs wyneb yn wyneb sydd yn Llanilltud Fawr. Bydd y dosbarth yma yn dechrau ar uned 1 Uwch 1.

Dyma gyfle i ymarfer trafod pynciau a themâu o bob math. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau darllen, ysgrifennu a gwrando. Bydd cost ychwanegol o £12 am y cwrslyfr, a gallwch brynu’r llyfr yma: https://bit.ly/CwrslyfrUwch1deundefined

‘Dyn ni’n cynnig gostyngiad Cyw Cynnar o 50% oddi ar ein cyrsiau ar hyn o bryd! Defnyddiwch y cod CYW26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs (rhaid i chi dalu’r ffi cwrs yn llawn erbyn 31/07/2026 i dderbyn y gostyngiad). Os eich cyflogwr sydd yn talu, a dych chi am i ni godi anfoneb, nid yw'r gostyngiad Cyw Cynnar yn cyfri. Os dych chi rhwng 18-25 oed, neu’n gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd y cwrs am ddim i chi!