Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2
Ynglŷn â'r cwrs
CWRS CYFUNOL YW HWN LLE DISGWYLIR I CHI WNEUD 1 AWR YR WYTHNOS O HUNAN-ASTUDIO ER MWYN CWBLHAU'R LEFEL MEWN UN FLWYDDYN ACADEMAIDD. MAE'R CWRS HWN YN MYND YN GYFLYMACH NA CHYRSIAU ERAILL AC MAE'N BWYSIG I CHI WNEUD Y GWAITH O FLAEN LLAW
Dyma gwrs sy’n adeiladu ar lefel Mynediad ac sy’n gofyn am rywfaint o brofiad o’r Gymraeg. Bydd y prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau bob dydd fel y teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau. Byddwn yn anelu at gwblhau’r cwrs Sylfaen erbyn diwedd y flwyddyn academaidd. Bydd y cwrs yn cael ei ddysgu mewn ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb yn y Drenewydd dan arweiniad tiwtor am 30 wythnos. Bydd disgwyl i chi fynychu 3 awr yr wythnos mewn dosbarth rhithiol ac awr o hunan-astudio annibynnol.
Bydd cost ychwanegol o £12 am y cwrslyfr, a gallwch brynu’r llyfr yma: https://bit.ly/f2CwrlyfrSylfaenGogledd
‘Dyn ni’n cynnig gostyngiad Cyw Cynnar o 50% oddi ar ein cyrsiau ar hyn o bryd! Defnyddiwch y cod CYW26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs (rhaid i chi dalu’r ffi cwrs yn llawn erbyn 31/07/2026 i dderbyn y gostyngiad). Os eich cyflogwr sydd yn talu, a dych chi am i ni godi anfoneb, nid yw'r gostyngiad Cyw Cynnar yn cyfri. Os dych chi rhwng 18-25 oed, neu’n gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd y cwrs am ddim i chi!