Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Canolradd Rhan 1 a 2

Canolradd 1 a 2 (Intermediate 1 and 2)
Hunan astudio a dosbarth rhithiol
Hunan astudio a dosbarth rhithiol
Cyfeirnod y cwrs: 26AC103c
Hyd: 34 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 14/09/2026
Dyddiad Gorffen: 28/06/2027
Amser + Diwrnod: 19:00 - 21:30 Dydd Llun
Tafodiaith: Gogledd
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin
£100.00
Lle ar ôl: 0
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 01/11/2026

Ynglŷn â'r cwrs

Dyma gwrs cyfunol lefel Canolradd (B1) sy’n adeiladu ar lefel Sylfaen (A2) ac sy’n addas ar gyfer pobl sy’n gyfarwydd â phrif batrymau’r Gymraeg. Mi fydd cyfle i ddatblygu sgiliau sgwrsio, gydag ychydig o waith ysgrifennu, darllen a gwrando.

Be’ ydy ‘cwrs cyfunol’?

Mae cwrs cyfunol yn cynnwys gwersi byw ar-lein ac unedau hunan-astudio y bydd angen i chi eu cwblhau cyn y gwersi. O ganlyniad, mi fyddwch chi’n cwblhau lefel Canolradd mewn blwyddyn academaidd. Felly, os oes gynnoch chi’r amser i ymroi i ddysgu ac os dach chi am wneud cynnydd cyflym, dyma’r cwrs i chi.

Rhestr Wirio Offer TG

Mi fyddwch chi angen cyfrifiadur / gliniadur / tabled efo meicroffon a chamera i gymryd rhan yn y gwersi.  Mi fydd angen i chi  fod â’ch camera ymlaen yn ystod gwersi er mwyn cymryd rhan yn y broses ddysgu.

Gostyngiadau a chymorth ariannol

Cofrestrwch cyn Gorffennaf 31 i dderbyn gostyngiad o 50%. Cofiwch ddefnyddio'r cod CYW26 wrth gofrestru.

Mae cyrsiau Cymraeg am ddim

  • i ddysgwyr ifainc (18-25 oed)
  • staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor
  • y gweithlu addysg yng Nghymru.

Edrychwch ar ein tudalen ar y wefan am fanylion, neu anfonwch e-bost – dysgucymraeg@bangor.ac.uk

Mae cymorth ariannol hefyd ar gael drwy'r Gronfa Ariannol Wrth Gefn gyda chostau fel gofal plant, adnoddau, teithio a pharcio. Cliciwch ar y ddolen am fanylion  https://dysgucymraeg.cymru/cymorth/cronfa-ariannol/

Llyfr Cwrs

Sgynnoch chi gopi o’r llyfr cwrs Canolradd (Gogledd Cymru, fersiwn 2)? Dach chi’n medru prynu'r llyfr cwrs ar-lein – www.gwales.com neu be’ am gefnogi'ch siop lyfrau Gymraeg leol?

Nodyn Pwysig

Mae angen isafswm nifer o gofrestriadau i sicrhau bod y cwrs yn hyfyw. Os na fydd digon o bobl yn cofrestru ar y cwrs, mi fyddwn yn cysylltu â’r rhai sydd wedi cofrestru i drafod yr opsiynau eraill sydd ar gael.