Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Canolradd Rhan 2

Canolradd 2 (Intermediate 2)
Dosbarth
Dosbarth
Cyfeirnod y cwrs: BM27-13-C2
Hyd: 30 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 14/09/2026
Dyddiad Gorffen: 31/07/2027
Amser + Diwrnod: 18:30 - 20:30 Dydd Llun
Tafodiaith: De
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Y Fro
Lleoliad: CF61, Station Rd, Llantwit Major -Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg, CF61 1ST
£100.00
Lle ar ôl: 4
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 31/10/2026

Ynglŷn â'r cwrs

Cwrs wyneb yn wyneb sydd yn Llanilltud Fawr.

Parhad o’r cwrs Canolradd sydd wedi cyrraedd uned 10 o’r cwrs Canolradd. Mae'r cwrs yn adeiladu ar lefelau cychwynnol y cwrs Canolradd, ac mae’n addas ar gyfer pobl sy’n gyfarwydd â phrif batrymau’r Gymraeg. Bydd cyfle i ddatblygu sgiliau sgwrsio, gydag ychydig mwy o waith ysgrifennu, darllen a gwrando. Byddwch yn cwblhau lefel Canolradd ar y cwrs hwn. Byddwn yn dysgu’r cwrs mewn ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb dan arweiniad tiwtor am 30 wythnos.

Bydd cwrslyfr Canolradd newydd ar gael yn fuan – manylion a dolen i’w brynu i ddilyn eto.

‘Dyn ni’n cynnig gostyngiad Cyw Cynnar o 50% oddi ar ein cyrsiau ar hyn o bryd! Defnyddiwch y cod CYW26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs (rhaid i chi dalu’r ffi cwrs yn llawn erbyn 31/07/2026 i dderbyn y gostyngiad). Os eich cyflogwr sydd yn talu, a dych chi am i ni godi anfoneb, nid yw'r gostyngiad Cyw Cynnar yn cyfri. Os dych chi rhwng 18-25 oed, neu’n gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd y cwrs am ddim i chi!