Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Canolradd Rhan 1

Canolradd 1 (Intermediate 1)
Dosbarth
Dosbarth
Cyfeirnod y cwrs: 26DC102w
Hyd: 33 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 17/09/2026
Dyddiad Gorffen: 17/06/2027
Amser + Diwrnod: 09:30 - 12:30 Dydd Iau
Tafodiaith: Gogledd
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin
Lleoliad: Y Ganolfan Community Centre, Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9LU
£100.00
Lle ar ôl: 2
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 01/11/2026

Ynglŷn â'r cwrs

Dyma gwrs lefel Canolradd (B1) sy’n adeiladu ar lefel Sylfaen (A2) ac sy’n addas ar gyfer pobl sy’n gyfarwydd â phrif batrymau’r Gymraeg. Mi fydd cyfle i ddatblygu sgiliau sgwrsio, gydag ychydig o waith ysgrifennu, darllen a gwrando.

Gostyngiadau a chymorth ariannol

Cofrestrwch cyn Gorffennaf 31 i dderbyn gostyngiad o 50%. Cofiwch ddefnyddio'r cod CYW26 wrth gofrestru.

Mae cyrsiau Cymraeg am ddim

  • i ddysgwyr ifainc (18-25 oed)
  • staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor
  • y gweithlu addysg yng Nghymru.

Edrychwch ar ein tudalen ar y wefan am fanylion, neu anfonwch e-bost – dysgucymraeg@bangor.ac.uk

Mae cymorth ariannol hefyd ar gael drwy'r Gronfa Ariannol Wrth Gefn gyda chostau fel gofal plant, adnoddau, teithio a pharcio. Cliciwch ar y ddolen am fanylion  https://dysgucymraeg.cymru/cymorth/cronfa-ariannol/

Llyfr Cwrs

Mi fyddwch chi angen prynu llyfr cwrs Canolradd (Gogledd Cymru, fersiwn 2). Dach chi’n medru prynu'r llyfr cwrs ar-lein – www.gwales.com , neu be’ am gefnogi'ch siop lyfrau Gymraeg leol?

Nodyn Pwysig

Mae angen isafswm nifer o gofrestriadau i sicrhau bod y cwrs yn hyfyw. Os na fydd digon o bobl yn cofrestru ar y cwrs, mi fyddwn yn cysylltu â’r rhai sydd wedi cofrestru i drafod yr opsiynau eraill sydd ar gael.