Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2

Sylfaen 1 a 2 (Foundation 1 and 2)
Hunan astudio a dosbarth rhithiol
Hunan astudio a dosbarth rhithiol
Cyfeirnod y cwrs: HA27-01-S12
Hyd: 30 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 16/09/2026
Dyddiad Gorffen: 31/07/2027
Amser + Diwrnod: 18:00 - 21:00 Dydd Mercher
Tafodiaith: De
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Y Fro
£100.00
Lle ar ôl: 5
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 31/10/2026

Ynglŷn â'r cwrs

CWRS CYFUNOL YW HWN LLE DISGWYLIR I CHI WNEUD 1 AWR YR WYTHNOS O HUNAN-ASTUDIO ER MWYN CWBLHAU'R LEFEL MEWN UN FLWYDDYN ACADEMAIDD.

Dyma gwrs sy’n adeiladu ar lefel Mynediad ac sy’n gofyn am rywfaint o brofiad o’r Gymraeg. Bydd y prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau bob dydd fel y teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau. Byddwn yn anelu at gwblhau’r cwrs Sylfaen erbyn diwedd y flwyddyn academaidd. Bydd y cwrs yn cael ei ddysgu mewn ystafell ddosbarth rhithiol Zoom dan arweiniad tiwtor am 30 wythnos. Bydd disgwyl i chi fynychu 3 awr yr wythnos mewn dosbarth rhithiol ac awr o hunan-astudio annibynnol.

Bydd cost ychwanegol o £12 am y cwrslyfr, a gallwch brynu’r llyfr yma: https://bit.ly/CwrslyfrSylfaenNewyddDe

‘Dyn ni’n cynnig gostyngiad Cyw Cynnar o 50% oddi ar ein cyrsiau ar hyn o bryd! Defnyddiwch y cod CYW26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs (rhaid i chi dalu’r ffi cwrs yn llawn erbyn 31/07/2026 i dderbyn y gostyngiad). Os eich cyflogwr sydd yn talu, a dych chi am i ni godi anfoneb, nid yw'r gostyngiad Cyw Cynnar yn cyfri. Os dych chi rhwng 18-25 oed, neu’n gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd y cwrs am ddim i chi!