Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2
Ynglŷn â'r cwrs
Parhad o’r cwrs wyneb yn wyneb lefel Sylfaen, gan ddechrau ar Uned 10. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfleoedd rheolaidd i drafod pynciau pob dydd megis teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau.
Gostyngiadau a chymorth ariannol
Cofrestrwch cyn Gorffennaf 31 i dderbyn gostyngiad o 50%. Cofiwch ddefnyddio'r cod CYW26 wrth gofrestru.
Mae cyrsiau Cymraeg am ddim
- i ddysgwyr ifainc (18-25 oed)
- staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor
- y gweithlu addysg yng Nghymru.
Edrychwch ar ein tudalen ar y wefan am fanylion, neu anfonwch e-bost – dysgucymraeg@bangor.ac.uk
Mae cymorth ariannol hefyd ar gael drwy'r Gronfa Ariannol Wrth Gefn gyda chostau fel gofal plant, adnoddau, teithio a pharcio. Cliciwch ar y ddolen am fanylion https://dysgucymraeg.cymru/cymorth/cronfa-ariannol/
Llyfr Cwrs
Sgynnoch chi gopi o’r llyfr cwrs Sylfaen (Gogledd Cymru, fersiwn 2)? Dach chi’n medru prynu'r llyfr cwrs ar-lein – www.gwales.com neu be’ am gefnogi'ch siop lyfrau Gymraeg leol?
Nodyn Pwysig
Mae angen isafswm nifer o gofrestriadau i sicrhau bod y cwrs yn hyfyw. Os na fydd digon o bobl yn cofrestru ar y cwrs, mi fyddwn yn cysylltu â’r rhai sydd wedi cofrestru i drafod yr opsiynau eraill sydd ar gael.