Cwrs Wythnos
Ynglŷn â'r cwrs
Ynglŷn â'r cwrs
Cwrs o ddysgu dwys dros un wythnos 16/11/26 - 20/11/26
Tempo: Cymhedrol
Nifer o sesiynau mewn wythnos: 5
Hyd y dosbarth: 9:30 - 3:30pm
Cwrs ar gyfer: Dysgwyr lefel Mynediad
Dull: Dosbarth rhithiol a dysgu annibynnol
Llyfr Cwrs: Mynediad (De Cymru) Fersiwn 2 [ISBN: 9781998995905]
Unedau a astudir: 1-5
Lefel paratoi cyn y dosbarth: Bydd angen gweithio ar ambell dasg yn annibynnol.
LLYFRAU CWRS:
Nid yw pris y llyfrau cwrs yn gynwysedig yn y ffi cwrs (oni nodir yn wahanol).
Rydyn ni’n annog pob dysgwr i sicrhau copi caled o’r llyfr cwrs yn barod ar gyfer y wers gyntaf.
Mae llyfrau cwrs (tua £12) ac adnoddau eraill ar gael i ddysgwyr mewn siopau llyfrau Cymraeg lleol fel:
• Siop Tŷ’r Gwrhyd (Adeilad Yr Hen Lyfrgell, Pontardawe SA8 4ET)
• Siop Tŷ Tawe (Stryd Christina, Abertawe SA1 4EW).
Archebu ar-lein: https://www.ffolio.cymru (ewch i’r adran Dysgu Cymraeg)
Ceir copïau PDF (am ddim) ar wefan https://dysgucymraeg.cymru (ewch i’r adran adnoddau)
££ CYNLLUN GOSTYNGIADAU ££
Mae ystod o ostyngiadau i ffioedd cyrsiau DCABA ar gael – yn ddibynnol ar eich amgylchiadau. Efallai y byddwch yn gymwys i gael eich cwrs AM DDIM!
Os yn gymwys, defnyddiwch y cod arbennig perthnasol wrth ymgofrestru ar-lein i dderbyn gostyngiad ar y ffi llawn.
Gallwch weld holl fanylion y gostyngiadau yma (neu ar ein hafan https://dysgucymraeg.cymru/aba yn yr adran Cefnogaeth Ariannol)
Mewn rhai amgylchiadau arbennig, gall DCABA gynnig bwrsariaeth ar gyfer ffioedd cwrs. Gallwch ofyn am fanylion a ffurflen gais drwy gysylltu â: dysgucymraeg@abertawe.ac.uk